Bywyd Newydd ar y ‘Welsh Riviera’

14 Mehefin 2013

Mae Elinor Lloyd yn sôn wrth Nia Percy am ei phenderfyniad i symud o ochr arall Clawdd Offa i fyw i Gaerdydd – a Chymru – am y tro cyntaf.

Dwi newydd symud i Gaerdydd rhyw fis yn ôl. Dwi wedi byw yn Llundain a Chaint ar hyd fy oes, a’m magu’n Gymraes, yn ferch i rieni a dyfodd fyny yn Gymry Llundain hefyd.  Yn y capel ddaru nhw gwrdd a dim ond yn fanno ac o fewn y teulu ydw i wedi cyfarfod pobl yn siarad Cymraeg – hyd yma.

Ron i wedi bod yn meddwl am symud i Gaerdydd ers rhai blynyddoedd, yn enwedig ers i fy rhieni symud i fyw i Sir Fynwy cwpwl o flynyddoedd nôl.  Roedden nhw’n byw’n agos i fi o’r blaen a roeddwn i’n eu colli nhw.

Dwi’n fam sengl gyda merch fach flwydd oed ac mae wedi bod yn anodd iawn ei magu hi ar fy mhen fy hun heb gefnogaeth fy nheulu o gwmpas.  Ond rydw i’n gyfreithwraig, yn gweithio mewn maes arbenigol, ac yn Llundain mae rhan fwyaf o’r gwaith.

Yn gynharach eleni ges i alwad ffôn gan gwmni arall yn cynnig gwaith i mi.  Roeddwn i’n gwybod bod ganddyn nhw swyddfa ym Mryste felly dywedais y byddwn yn fodlon dod i weithio iddyn nhw os cawn fy lleoli yn swyddfa ym Mryste.  Er mawr syndod i fi ddaru nhw gytuno.

Felly dyma fi, mewn tŷ newydd gyda bocsys ym mhob man.  Ond mae pethau’n dechrau dod i drefn.  Mae’r babi’n a’r gath wedi setlo fewn yn dda.

Dwi’n dechrau dod i nabod yr ardal ac wedi bod am dro i’r parc nifer o weithiau.  Mae Parc Bute a chaeau Llandaf yn fendigedig; mae’n teimlo fwy fel canol y wlad na chanol dinas.  Y tro cyntaf es i a’r babi allan am dro yn y pram a cherdded ar hyd ochr yr afon ro’n i’n teimlo mod i wedi gwneud y peth iawn yn symud i Gaerdydd.  Mae’r tywydd wedi bod yn braf iawn hyd yma, sy’n help.  Mae gyrrwyr tacsi’n galw Caerdydd yn ‘Welsh Riviera’ ar hyn o bryd.  Dwi’n dysgu llawer am Gaerdydd gan yrrwyr tacsi.

Ac wrth gwrs mae Nain a Taid o gwmpas.  Ffoniodd Mam y bore o’r blaen i ddeud ei bod hi a Dad, a fy Yncl ag Anti am alw draw am baned.  Ella’u bod nhw’n rhy agos weithiau.  Mae’r fechan wedi dechrau ecseitio’n lan pan mae’n gweld Nain.  Doedd hi ddim yn ei nabod yn dda iawn o’r blaen.  Mae’n bwysig iawn iddi ddod i nabod ei theulu ehangach, yn enwedig gan mod i ar ben fy hun.

Ar ddiwrnod y symud roeddwn i wedi disgwyl teimlo’n reit drist ond yn y diwedd unwaith ti wedi pacio dy stwff i gyd a’i symud allan o’r tŷ ti’n sylwi does yna ddim byd yna i dy gadw yna.  Mae dy atgofion i gyd yn dy ben a’r pethau, nid yn y brics.  Nes i ‘rioed deimlo bod fi’n gadael lot ar ôl, roedd o wastad mwy i wneud efo ble oeddwn i’n mynd a beth oedd o mlaen i.

Dwi’n sylwi ar bethau sy’n wahanol rhwng Lloegr a Chymru; yr ailgylchu er enghraifft.  Doeddwn i ddim yn ailgylchu bwyd o’r blaen a doedden nhw ddim yn cymryd poteli i ffwrdd fel mae nhw’n wneud yma.  Dwi wedi bod i’r dymp amryw o weithiau’n barod. Dwi hefyd yn cael fy nrysu braidd gan arwyddion a ffurflenni dwyieithog ond dwi’n siwr ddoi i arfer efo nhw.

Mae rhaid bod dipyn bach mwy gofalus pan dwi’n siarad Cymraeg yma achos dwi wedi arfer siarad efo’r teulu yn Llundain lle does neb arall yn deall be ti’n ddeud.  Ond fedri di byth fod yn siwr yma. Pan dwi’n siarad Saesneg dydw i ddim yn swnio fel rhywun sy’n dod o Gymru, felly mae’n bosib bod pobl yn cymryd yn ganiataol nad ydw i ddim yn gallu siarad Cymraeg.

Dwi’n colli fy ffrindiau ond dwi’n gobeithio byddan nhw’n dod i ymweld. Mae un hyd yn oed yn son am symud i lawr yma i fyw.  Roedd pawb yn deall yn iawn pam mod i’n symud, pam bod o’n beth pwysig i fi.”

 

Rhannu'r erthygl hon