gan Lois Eckley, Swyddog y Wasg, Achub y Plant
Dewch i glywed Aisha bydwraig o Nigeria yn siarad am ei bywyd a’i gwaith yn Neuadd Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn hwn yr 22ain o Chwefror.
Mae Aisha yn fydwraig hyfforddiedig adref yn Nigeria ac mae hi wedi helpu geni dros 100 o fabis yn ei mamwlad. Mae hi wrth ei bodd gyda’i gwaith ac yn mwynhau rhoi cymorth i ferched trwy gyfnod eu beichiogrwydd, adnabod problemau a bod yna wrth law i helpu mamau a babanod i gyrraedd yn saff.
Mae’r byd wedi gwneud datblygiadau mawr yn achub bywydau plant dros y ddegawd diwethaf ond mae’r ffigyrau o farwolaethau byd eang ymysg babis ar ddiwrnod cyntaf eu bywyd yn frawychus o uchel. Byddai modd atal y marwolaethau hyn petae mwy o fydwragedd a chymorth ar gael.
Mae croeso ichi ymuno gyda ni i glywed hanes Aisha ac i ddysgu mwy am ymgyrch newydd Achub y Plant ‘Newydd Anedig.’ Dewch i Ystafell L, Neuadd y Ddinas Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3ND am 10.30yb – 11.30yb
sylw ar yr adroddiad yma