Gan Rhidian Dafydd
Mae’n gychwyn pennod newydd i fwyty Il Pastificio yr wythnos hon. Mae bwyty Il Pastifico yn gadael Heol Wellfield ac yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf ar Heol Penylan, cyferbyn â thafarn The Claude.
Gyda hi’n anodd iawn cael bwrdd, mae’n beth da bod Il Pastificio nawr mewn bwyty llawer mwy.
Dw i wedi cwympo mewn cariad gyda’r lle. Yn syml, mae’n wych. Mae personoliaeth ac egni yn perthyn i’r lle sydd ddim ar gael unrhywle arall yng Nghaerdydd. Mae’r cogydd yn llawn bywyd ac yn cyfarch a sgwrsio gyda’r cwsmeriaid. Mae’r gegin agored yn llwyfan iddo fe a’r tîm i berfformio a gyda’r cogyddion a gweinwyr yn siarad Eidaleg, mae’r naws yn hyfryd. Dw i’n gobeithio bydd y fangre newydd yn gallu ail greu’r awyrgylch yma. Yn sicr, dw i’n gobeithio bydd cegin agored yno er mwyn i’r cwsmeriaid cael gweld y cogyddion yn perfformio.
Mae’r bwyd ei hun yn hynod o syml. I ddechrau gofynnais i am gorgimwch mawr, tomato a saws tomato sbeislyd a dyna’r union beth ges i. Doedd dim byd ‘cheffy’ am y pryd, dim ond bwyd syml wedi’i goginio’n dda.
Roedd yr un peth yn wir am y prif gwrs. Stecen llygad yr asen gyda sbigoglys a chaws gorgonzola. Syml a blasus. Roedd y risotto gydag ysbinbysg y môr yn arbennig. Ffiledwyd y pysgodyn mewn eiliadau ac fe ffriwyd yn ysgafn i greu pryd tyner iawn.
Roedd y gwin yn llifo erbyn hyn ac er i mi deimlo’n llawn, roedd gweld pwdinau ar fyrddau pobl eraill yn ormod o demtasiwn i mi.
Fy newis i oedd y darten lemwn. Roedd y crwst yn denau ac yn frau ond gallu cynnal y llenwad.
Ar ddiwedd noson llawn hwyl, daeth y cogydd allan eto a chynnig gwydred o limoncello am ddim i ni. Roedd y cogydd yr un mor egnïol ar ddiwedd y noson, yn wir, roedd ef allan ar ganol yr heol yn ceisio cael tacsi i rai o’u cwsmeriaid!
Mae Il Pastificio wir yn berl o le a gyda thîm mor angerddol a brwdfrydig wrth y llyw, dw i’n sicr bydd pennod nesaf Il Pastificio yn un llwyddiannus a llewyrchus.
Darllenwch blog bwyd Rhidian sef @L0mbard0 http://bwytaynybrifddinas.blogspot.co.uk/
sylw ar yr adroddiad yma