Hoff le Elin Rees am ginio yw Kemi’s Cafe Pontcanna :
“Dwi’ dwli ar Kemi’s ac yn mynd yna o leiaf unwaith pob wythnos. I fi, dyma’r lle gorau yn y ddinas i fynd am ginio iachus a blasus.
Mae bwyd Kemi mor ddiddorol ac wedi’i phrisio’n rhesymol hefyd. Mae’r ‘salad feast’ yn wirioneddol eithriadol ac yn cynnwys cymysgedd anarferol o lysiau (e.e.fy ffefryn – y tatws melys), ffa, codlysiau, perlysiau a hyd yn oed ffrwyth. Dwi erioed wedi bwyta salad mor flasus ag un Kemi yn fy mywyd a phob tro dwi’n mynd yna mae’r gymysgedd yn wahanol ac yn cynnwys o leiaf chwe math o salad, felly dydw i byth yn blino eu bwyta.
Mae’r ‘quiche’ hefyd yn wych yn ogystal â’r tatws pob, wraps a baguettes gyda llenwadau fel cig iâr ‘coronation’. Mae’r pwdinau hefyd yn anhygoel – ac mae na tipyn o ddewis – er enghraifft key lime pie, cacen banana a siocled (gluten free) a flapjacks.
Mae Kemi ei hunan nid unig yn gogydd medrus iawn ond hefyd yn fenyw garedig sy’n dipyn o gymeriad ac mae’r staff i gyd yn awyddus iawn i helpu pob cwsmer.
Un o dri caffi Kemi
Achos dwi’n gweithio yn yr ardal dwi’n mynd i Kemi’s ym Mhontcanna mwyaf aml ond mae ‘na hefyd ddau Kemi’s arall lawr yn y Bae (un yn rhan o ‘Crefft yn y Bae’ sydd gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm a’r llall yn Sgwâr Mount Stuart) ac mae’r tri yn addas iawn i bobl gyda phlant ifanc.
Mae Kemi’s newydd ddechrau agor yn hwyr ac yn gwerthu gwin a chwrw (yn ogystal â nifer o ddiodydd di-alcohol blasus!) felly dwi’n bwriadu mynd yna gyda ffrindiau am swper yn fuan iawn.
O ac i rheiny sydd eisiau dysgu sut i wneud bwyd fel Kemi, mae hi’n rhedeg nifer o gyrsiau coginio.
Rwy’n annog i bawb yng Nghaerdydd i drio Kemi’s. Dwi’n caru’r lle!”
sylw ar yr adroddiad yma