Adroddiad Clwb Gwawr Caerdydd
Fe fydd Clwb Gwawr Llygaid y ‘Dydd – yr unig Glwb Gwawr yn y brifddinas – yn cael seibiant fis Awst wedi blwyddyn o weithgareddau a thymor da arall.
Dechreuodd y flwyddyn gydag amrywiol gemau fis Medi, ac yn hwyrach cawsom y cyfle wneud crefftau ac addurniadau Nadolig efo Einir PG a chlywed Straeon y Syrcas efo Derfel Williams.
Fe wnaethom fwynhau hefyd y sesiwn Yoga efo Nia Ceidiog a chael bwyd bendigedig yn Popty i ddathlu Gŵyl Dewi.
Ac o son am fwyd fe fydd ein tymor nesa yn cychwyn ar Fedi 10fed, eto yn yr Institiwt yn Llandaf, yng nghwmni Elin Williams o Bant a la Cart
Mae croeso mawr i unrhyw un ymuno efo ni am £3 y noson neu fargen am £25 y flwyddyn (11 cyfarfod).
Mae’r grŵp yn cyfarfod ar nos Iau cynta’r mis (ag eithrio fis Medi) am 7.45 yh yn Institiwt Llandaf.
Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen ar Facebook (Clwb Gwawr Caerdydd) neu dilynwch ni ar Twitter (@clwbgwawrcdydd). Gallwch ebostio clwbgwawrcaerdydd@hotmail.com hefyd.
Dyddiadau tymor 2015-16
Medi 10fed: Blas o’r tymor efo Elin Williams Bant a La Cart
Hydref 1af: Golff Dan Do
Tachwedd 5ed: Crefftau a Chardiau
Rhagfyr 3ydd: Dathliadau Nadolig
Ionawr 7fed: Dawnsio
Chwefror 4ydd: Cwmni awdur
Mawrth 4ydd: Cinio Gŵyl Ddewi
Ebrill 7fed: Cymorth Cyntaf
Mai 5ed: Cerdded Nordig
Mehefin 2il: Ffotomarathon
Groffennaf 7fed: Taith ddirgel diwedd tymor
Croeso mawr i bawb ac yn enwedig i wynebau newydd.
sylw ar yr adroddiad yma