Eich sêr am 2016 gan Eiry Palfrey
CAPRICORN:
Mae’r planed Pluto – planed sy’n gallu newid dy fywyd yn gyfangwbl yn dy arwydd di am sbel go hir. Mae llawer o elfennau yn dy fywyd yn mynd i newid yn llwyr yn y misoedd a ddaw, ac mae pob newid yn un er gwell, er falle na fyddi di’n credu hynny ar y pryd. Fe allet symud cartre yn ystod y flwyddyn.
AQUARIUS:
Roedd 2015 yn flwyddyn dda yn llawn addewid, ond mae 2016 yn mynd i fod yn llawer gwell. Fe ddylet wneud yn dda IAWN yn dy waith ac yn dy fywyd personol eleni. Bydd Mis Awst yn benllanw yn dy fywyd – pan fydd rhywbeth annisgwyl a chyffrous yn debygol o ddigwydd.
PISCES
Roedd 2015 yn flwyddyn lwcus i ti, ac mae’r lwc yn para trwy Ionawr a Chwefror yn 2016, a mae’n bosib iawn y cei di rhyw gildwrn annisgwyl rywbryd cyn diwedd y flwyddyn hefyd. Cymer ofal o dy iechyd eleni a phaid â dilyn cyngor y meddyg yn slafaidd. Mynna ail farn.
ARIES:
Tan ddechrau Mis Mawrth mi fydd y pwyslais astrolegol ar dy gartre. Mae’n bosib y bydd yr adeiladwyr yn cnocio dy nyth fach di’n rhacs. Ar ôl Mis Mawrth mi fyddi di’n greadigol iawn – yn adeiladu eto falle! Neu’n creu mewn ryw ffordd ymarferol arall. Mae newyddion am fabi newydd yn bosib (Wps!).
TAURUS:
Mae hi’n bryd talu dyledion – ariannol ac emosiynol, ac mewn pob ffordd arall hefyd. Mae hon yn bygwth bod yn flwyddyn drom iawn yn llawn cyfrifoldebau, ond mae gyda ti ddigon o asgwrn cefyn a dyfalbarhâd i ymdopi. Mae misoedd Mawrth ac Ebrill yn debygol o fod yn rhai eitha rhamantus.
GEMINI:
Mae hon yn mynd i fod yn flwyddyn o newidiadau mawr yn dy fywyd. Fyddi di ddim yr un person ymhen blwyddyn ag yr wyt ti heddiw. Rwyt ti’n mynd i ddysgu llawer o wersi mawr a phwysig eleni, ond rwyt ti’n mynd i gael llawer o hwyl wrth wneud hynny hefyd!
CANCER:
Mae bywyd wedi bod yn eitha caled arnat ti yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio, ond mae’r cyfan ar fin newid. Mae 2016 yn mynd i fod yn flwyddyn i’w chofio, yn llawn hwyl a sbri a rhamant. Tria beidio â gwario’n rhy wyllt, neu mi fyddi di’n wynebu 2017 heb geiniog yn dy boced.
LEO:
Dyma’r flwyddyn pan all unrhyw beth ddigwydd – ac mae’n debygol o wneud. Mae digwyddiadau annisgwyl rhyfeddol ar eu ffordd i ti. Fe allai pob un o dy freuddwydion ddod yn wir, ac un neu ddwy na freuddwydiest ti amdanyn nhw hefyd! Mwynhâ!
VIRGO:
Mae pethau’n mynd i fod yn eitha tawel yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, ond erbyn mis Gorffennaf mae llawer iawn o lwc am ddod dy ffordd. Cymer fantais ohono a phaid a gwrthod unrhyw gynnig ddaw heibio. Mae Awst yn amser da i brynnu tocyn raffl, tocyn loteri neu osod bet o unrhyw fath.
LIBRA:
Mi fyddi di’n dechrau 2016 yn llawn ynni a brwdfrydedd tuag at dy waith a dy fywyd cymdeithasol, ond mi fyddi di’n dueoddol o losgi allan cyn gweld Mis Chwefror. Bydd llawer o filiau annymunol ar ei ffordd i ti bryd hynny, gobeithio fod digon o arian yn y cadw-mi-gei i’w talu!
SCORPIO:
Mae’r flwyddyn yn dechrau’n arbennig o lewyrchus, pan fydd pob math o bethau da yn disgyn i dy gôl; pam felly mae’n rhaid i ti fod mor ddiamynedd gyda dy gariad? Rwyt ti’n ymddangos yn rywiol iawn ar hyn o bryd ac yn debygol o’i gadw oherwydd hynny, ond cymôn rho gyfle i’r truan!
SAGITTARIUS:
Mae’r flwyddyn yn dechrau gyda’r planed sobor Sadwrn yn dy arwydd, gan roi digon o gyfle i roi trefn ar dy fywyd a chadw at dy addunedau Blwyddyn Newydd. Erbyn mis Mawrth a gweddill y flwyddyn mi fydd y pwyslais astrolegol ar dy sefyllfa ariannol. Amser i fod yn ddarbodus, neu dyn a dy helpo!
sylw ar yr adroddiad yma