Beth mae Caerdydd ddwyieithog yn golygu i blant y brifddinas

11 Mawrth 2014

Cafodd prif ddisgyblion Ysgol Plasmawr y cyfle i annerch Cynhadledd Caerdydd Ddwyieithog ar ddydd Gwyl Dewi  Sut mae Garyn ag Enlli’n temlo am cael eu magu yn y brifddinas? Dyma’u sylwadau yn ei geiriau’i hunain.

Enlli:

Mae Garyn a minnau yn gynrychioladwy o blant ysgolion Cymraeg y brif ddinas. Fe symudodd fy rieni i’r ddinas o orllewin a gogledd Cymru nifer o flynyddoedd yn ôl i chwilio am waith. Rwy’n sicr eu bod methu â chredu’r  twf sydd wedi digwydd o ran addysg Gymraeg ers iddynt gyrraedd y ddinas.  Mae’n anodd credu mai 99 disgybl a wnaeth ddechrau yn Ysgol Glantaf yn 1978 a bod ymhell dros ddwy fil o ddisgyblion ym Mhlasmawr a Glantaf bellach ac wrth gwrs mae Bro Edern wedi agor fel trydydd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Roedd gweld Ysgol Treganna newydd yn agor ym mis Medi fel ysgol tair ffrwd hefyd yn brawf o boblogrwydd addysg Gymraeg yn y ddinas.  O ganlyniad i’r poblogrwydd yma mae’r iaith tipyn mwy amlwg ar strydoedd y brifddinas sy’n dystiolaeth fod yna botensial i ddatblygu dinas ddwyieithog. Rwyf yn gweld ei fod yn bosib byw eich bywyd trwy gyfrwng yr iaith yn y Brifddinas bellach. Gallwch fynychu clybiau peldroed, rygbi, llu o gymdeithasau , bwytai a siopau gan ddefnyddio’r iaith. Ond i sicrhau llwyddiant ein dinas ddwyieithog rhaid ein bod yn sicrhau fod y Gymraeg ar gael i bawb beth bynnag eu cefndir ieithyddol a daearyddol.

Garyn

Mae fy nghefndir addysgol i yn dra gwahanol. Aeth Mam i Ysgol Michaelston ac aeth Dad i Glynderw. Mae fy nghefndir ethnig yn hollol gymysg, ond Cymro pur ydw i. Wedi fy magu yn Nhrelai dewisodd Mam i’m danfon i a fy mrawd i ysgol Gymraeg gan iddi golli’r cyfle i ddysgu’r iaith. Gwnaeth hi hefyd adnabod y manteision o fod yn ddwyieithog gan ei fod yn cynnig cymaint o sgiliau ychwanegol. Felly rwyf yn dod o gefndir hollol ddi-Gymraeg ond dyma batrwm mwyafrif y disgyblion ym Mhlasmawr ac ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerdydd. Y sialens sy’n ein wynebu yw sicrhau cyfleoedd i ddisgyblion fel fi i ddefnyddio’r iaith yn Nhrelai tu allan i oriau ysgol. Rwyf wedi gweld pwysigrwydd y gweithwyr ieuenctid cyfrwng Cymraeg ym Mhlasmawr a gwaith yr Urdd a Menter Caerdydd yn hybu gweithgareddau cymdeithasol. Rwy’n sicr bod mwyafrif llethol o ddisgyblion Plasmawr yn gefnogol i’r Gymraeg ond bod angen rhoi’r cyfleoedd iddynt arddel yr iaith yn gymdeithasol ac yn y byd gwaith. I greu dinas ddwyieithog i’r dyfodol rhaid datblygu’r cyfleoedd yma nid yn unig yn Nhreganna a’r Eglwys Newydd ond hefyd yn Nhrelai a Llanrhymni lle mae’r canran sy’n mynychu ysgolion Cymraeg yn parhau i gynyddu. Fel rhywun sy’n gweithio mewn archfarchnad ar benwythnos rwy’n gweld y cyfleoedd sydd ar gael i ddangos i bobl fy mod yn medru’r Gymraeg.  A oes angen edrych eto ar ddatblygu’r defnydd o fathodynnau “yn medru’r Gymraeg” gyda phob cwmni yn y brifddinas yn gorfod eu defnyddio? Pan ystyriwch yr holl ysgolion Cymraeg Yn y de ddwyrain sydd o fewn 45 munud i Gaerdydd -Gartholwg, Gwynllyw, Rhydywaun, Cymmer,  Llanhari, Llangynwyd, Y Fro – mae gan Gaerdydd gweithlu dwyieithog parod.  Rwy’n sicr fod nifer o bobl ifainc ysgolion Cymraeg yn gweithio yn y ddinas ond nid ydynt yn ymwybodol o’u dwyieithrwydd.

Enlli

Mae Garyn am astudio Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ym Mhrifysgol Efrog a minnau wedi fy nerbyn i ddilyn cwrs cerddoriaeth yn y Guildhall yn Llundain. Felly mae’n rhaid sicrhau fod Caerdydd yn y dyfodol yn medru denu myfyrwyr fel ni yn ôl i fod yn ran o ddinas ddwyieithog. Mae sefydlu dinas dwyieithog yn medru cynnig manteision economaidd drwy twristiaeth i’r ddinas wrth wneud ymweliadau yma yn rhai llawer fwy gwahanol i ddinasoedd eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae’r potensial yn ddibendraw o ran gwneud yr iaith yn amlwg o fewn y ddinas –yn glywadwy ac yn naturiol.

Beth am gael gweithwyr mewn gwestai a mannau twrisitaidd, gyrwyr tacsis a bysiau i ddefnyddio ychydig o eiriau o Gymraeg.  Mae angen i ni gofleidio’r iaith, ac ymfalchio ynddi a’i thrysori gan gofio mai dyma un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Rwy’n mawr obeithio y byddwn yn dychwelyd ac i fod yn ran o ddatblygiadau’r brif ddinas yn y dyfodol a hyd yn oed magu ein teuluoedd trwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghaerdydd ddwyieithog.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma