Mae Barry Manilow wedi cyhoeddi ei daith ‘One Last Time!’ fydd yn ymweld â sawl dinas o amgylch Prydain.
Gyda’i fand o 13 o gerddorion a chantorion dywedodd y canwr: “Yr oedd yn llawer o hwyl yn rhoi’r daith at ei gilydd.
“Yr ydym yn gobeithio mynd â’r dorf ar roller coaster emosiynol, dwi’n methu aros i weld pawb ar eu traed yn dawnsio.”
Wedi perfformio mwy na 400 o gyngherddau yn Las Vegas o 2005 i 2011, mae Manilow wedi cyfyngu’r nifer o gyngherddau mae wedi ymddangos ynddo ers hynny.
Mae’r daith ‘One Last Time!’ yn un mawr i Manilow a dywedodd “Dyma fy ffordd o ddiolch i bawb am eu blynyddoedd o gefnogaeth… am y tro olaf!”
Bydd y daith yn y Motorpoint Arena Caerdydd ar 20fed Mehefin, 2016. Prisiau o £19.75 a ffî bwcio.
Mae tocynnau cynnar ar gael o’r Swyddfa (Box Office) o 9yb, dydd Gwener, 2il Hydref: 029 20 224488
Tocynnau cyffredinol ar werth ar ddydd Llun 5ed Hydref.
Archebwch docynnau o wefan Ticketline neu yn uniongyrchol o’r lleoliad.
Gwybodaeth gyffredinol am y daith ‘One Last Time!’ ar y wefan.
sylw ar yr adroddiad yma