Cyfrannwyd gan Dafydd Parri
Mewn cyfnod pan mae ‘na lawer o sôn yn y wasg am Fandiau Pres mewn trafferthion, mae hi’n stori wahanol iawn i Fandiau Pres Dinas Caerdydd “Melingriffith”. Erbyn hyn mae pedwar band yn rhan o’r sefydliad, ac yn agos at gant o chwaraewyr yn mynychu’r ymarferion.
Mae chwarae mewn band yn hobi am oes, ac mae meithrin plant a phobl ifainc yn allweddol. Yr ychwanegiad diweddaraf at y teulu yw M4, band ar gyfer dechreuwyr sydd yn cael ei arwain gan Gareth Carwyn Jones. Mae’r band ieuenctid – M3 – yn mynd o nerth i nerth ac fe fu M3 ac M4 yn perfformio yn Tafwyl.
Cystadlu
Mae’r ddau fand hŷn, M1 ac M2 yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Y llynedd yn Y Fro, fe lwyddodd M1 dan arweiniad Gareth Ritter i ennill cystadleuaeth bandiau Adran y Bencampwriaeth. Mae M2 dan arweiniad Dewi Griffiths wedi ennill yn yr Eisteddfod dair blynedd yn olynol, ac yn gobeithio ei gwneud hi’n bedair gwaith eleni yn Adran 2. Ym mis Medi, bydd M2 hefyd yn cynrychioli Cymru yn Adran 2 Pencampwriaeth Bandiau Pres Prydain yn Cheltenham. Dyma’r ail waith i’r band ymddangos yn y bencampwriaeth. Yn 2011, M2 enillodd y gystadleuaeth i fandiau Adran 4.
Yn ogystal â’r cystadlu, mae yna nifer o gyngherddau ar y gweill. Uchafbwynt y cyngherddau fydd y Cyngerdd Blynyddol sydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Dora Stoutzker yn y Coleg Cerdd a Drama nos Wener 19 Gorffennaf. Yn ogystal â gwledd o gerddoriaeth bres gan y pedwar band, fe fydd Côr CF1 hefyd yn perfformio, ac mae’r ‘finale’, gyda’r pedwar band a’r côr yn perfformio ar y cyd yn argoeli i fod yn fythgofiadwy. I archebu tocynnau cysylltwch drwy ebost – neu â’r swyddfa docynnau yn y Coleg.
Mae croeso i unrhyw un ymuno yn y chwythu. Yn ogystal â nifer o hen bennau ac ieuenctid talentog, mae nifer cynyddol o aelodau M2 er enghraifft yn bobl sydd wedi cymryd hoe o fyd y bandiau, ac wedi penderfynu ail gydio ynddi hi. Am ragor o fanylion ewch i wefan y band
sylw ar yr adroddiad yma