Tra oedd diwydiant cyfryngau Cymru yn dathlu yng Nghanolfan y Mileniwm nos Sul diwethaf, roedd ein arbenigwraig ffasiwn Ani Saunders yn rhoi marciau allan o ddeg i’r selebs wrth iddyn nhw droedio’r carped coch…
1. Aneurin Barnard
Gymaint ag ydw i’n hoff o Aneurin fel actor ac wrth gwrs nid yw’n ormod o drafferth gorfod edrych arno chwaith ond sai cweit yn siwr o’r siwt. Gallai weld wrth edrych yn agos fod y siwt yn un drud, ond wedwn i fod e di neud cwpl o “press-ups” yn ormod i allu ffitio’n iawn mewn i’r siwt. Bysen i’n awgrymu agor y siaced a newid steil y towsus. 6/10
2. Patrick Robinson
Dyw’r siwt na’r crys ddim wedi newid fy mywyd ond fi’n ithe hoff o’r sgidie. Sy’n i falle yn awgymru trip bach i’r teiliwr i wella’r ffit. 4/10
3. Matt Johnson a Siân Lloyd
Ma Matt yn edrych yn smart, wedwn i fod y crys bach yn fawr iddo o gwmpas y gwddf ond ma’r edrychiad yn un saff ac yn neud y jobyn. Sy’n neis gweld tei lliw gyda gwead gwahanol. 6.5/10
Fi’n ithe hoff o ffrog Siân, ma’n drawiadol iawn. Petawn i’n wiiiir yn pigo gwalle byswn i wedi gwisgo’r gwallt yn ol mewn bwn isel a tynnu’r oriawr bant. 7/10
4. Julian Lewis Jones, Huw Edwards a Rhodri Meilir
Ma Julian yn edrych yn ithe hapus yn ei grys pinc lachar IAWN a chware teg iddo. Dyw e ddim yn edrychiad rhy smart na siarp a falle sy’n werth rhoi sglein bach i’r sgidie ond ma fe’n gwenu’n fwy na’r lleill felly fi’n hoffi fe. Dyfarniad: 4/10
Ma Huwcyn bach yn edrych yn broffesiynol a siarp, fel sy fe wedi bod i’r math hyn o ddogwyddiade sawl gwaith o’r blaen. Dim byd mentrus ond ma’n neud y jobyn. 6.5/10
Fi’n hoffi fod Rhodri wedi gwisgo jins du er mwyn ychwanegu bach o wead gwahanol i’r wisg. I neud yr edrychiad yn un mwy pendant efalle galle fe di newid y wregus a’r tei, efalle ychwanegi lliw… a falle crib bach iawn i’r gwallt. Dyfarniad: 6/10
5. Julie Gardner
Dyw hwn ddim yn ffrog gwael o gwbl. Ma’n ffit neis ac yn siwtio Julie. I wella’r edrcyhiad sy’n i’n awgrymu sgidie mwy merchetaidd, falle “peep-toe” neu rywbeth tebyg a bach mwy o fowns yn y gwallt. 6/10
6. Michael Sheen
Drian o Mikey bach, Matt y bachgen drwg yn sbwylio’r cefndir. Ma edrychiad Michael yn un proffesiynol, crys neis, ma’n smart a fi’n ffan mawr yn gyffredinol felly na’i roi bys bawd lan. 7/10
7. Cast Da Vinci’s Demons
Wel ma’r criw yma yn hoffi Top Shop, pob un yn edrych yn smart yn eu dillad newydd. Y boi ar y chwith sy ‘da’r edrychiad ore wedwn i, da ti! 7.5/10
8. Sophie Evans
Ma Sophie’n edrych yn bert iawn a chware teg iddi am wisgo lliw tra fod pawb arall yn chware hi’n ithe saff. Ma’r ffrog yn hyfryd a dyw hi ddim yn gwisgo unrhyw emwaith fyddai’n tynnu oddi ar y ffrog sy’n dda. Sai’n ffan o steil ei gwallt ond mae’n siwtio hi. 8/10
9. Shan Cothi
Fi wir yn lico Shan. Ma’r ffrog yn boncyrs ond mae hi’n amlwg yn gwbod yn union beth sy’n siwtio hi. Neis gweld rhywun a hyder yn ei steil.
8.5/10
10. Carwyn Jones a’i wraig Lisa
Ma Mr Jones yn atgoffa fi o athro sy’n mynd i barti y Chweched i gadw golwg arnyn nhw a neud yn siwr nad y’n nhw’n yfed nac yn achosi trwbwl. Fi’n siwr nad oes fawr ots gydag e pa olwg sydd arno ond ei fod wedi gwisgo i’r achlysur. 4/10
Fi’n hoff iawn o fag Lisa ac ma’r ffrog yn siap da iddi er falle braidd yn hir… 5/10
11. Ruth Jones a David Peet
Fi’n lico’r par ‘ma, digon o gymeriad a gwen. Licen i sy nhw’n anti ac wncwl i fi. 7.5/10
12. Griff Rhys Jones
Heblaw fod y trowsus braidd yn fawr, fi’n ithe hoffi sut ma Gruff yn edrych. Ma’r wen yn gweithio i fi, da iawn Mr Jones. Paid a cwmpo dros y lasus ‘na! 6.5/10
13. Russell T Davies
Da iawn Mr Davies am wisgo DMs, galle’r siaced fod bach yn dynnach ar y breichie ond yn ddigon smart ar y cyfan. 6/10
14. Catrin Finch
Wedwn i nad yw’r wisg yma cweit yn ddigon smart at y Bafftas a ma na ithe lot yn mynd mlan ar y siaced, bron i fod yn rhyw “work-out” i’r llyged. Sy’n i di lico gweld bach mwy o ymdrech. 4.5/10
Ydych chi’n cytuno gydag Ani? Gadewch i ni wybod @PoblCaerdydd #ffasiwnBAFTA
sylw ar yr adroddiad yma