Mae dau o ddisgyblion ysgol gynradd Treganna wedi ennill cystadleuaeth Stori Fer Nadolig a gynhaliwyd gan raglen Geth a Ger ar BBC Radio Cymru . Mae’r 5 stori buddugol yn cael eu darllen gan actorion proffesiynol yn ystod rhaglen Bore Cothi yr wythnos hon, gan gynnwys rhai plant Caerdydd-
“Gwesty’r Gaeaf” gan Brychan Davies cafodd ei ddarllen gan Llyr Evans ar ddydd Mawrth Rhagfyr 16 a Dydd Gwener, Rhagfyr 19, fydd “Yr Anrheg Gorau Erioed” gan Owain Sion Griffiths yn cael ei ddarllen gan Owen Puw.
Yn ol y cyflwynydd Geraint Iwan, fe benderfynwyd cynnal cystadleuaeth stori fer i ysgolion cynradd Cymru a chael actorion proffesiynol i adrodd y rhai buddugol ar y radio. Roedd Betsan Powys, golygydd Radio Cymru, yn hoffi’r syniad o’r cychwyn, ac aethon nhw ati i drefnu. Y beirniaid oedd Bethan Gwanas, Anni Llyn a Bedwyr Rees. Tri awdur sydd wedi gweithio ar nifer fawr o straeon a llyfrau plant.
Yn ôl ei flog dywedodd Geraint, ” Ar ôl trafod a gofyn am farn y beirniaid, fe benderfynom gadw’r rheolau mor syml a phosib, sef na ddylai stori fod yn fwy na 500 gair, ac y dylai thema’r stori yn gyffredinol fod o amgylch ‘Y Nadolig’. Doedden ni ddim eisiau rhoi mwy o help iddynt drwy roi paragraff na brawddeg agoriadol, na chwaith drwy roi unrhyw syniadau am gymeriadau, oherwydd y gwir ydi byddai dychymyg y plant yn mynd a nhw i lefydd llawer mwy lliwgar a diddorol na fyddai unrhyw help gan oedolyn fyth yn ei roi iddyn nhw!
I ddarllen blog Geraint ac i glywed y storiau cliciwch yma.
sylw ar yr adroddiad yma