gan Sarah Howells
Mae cyfansoddwr o Gaerdydd wedi bod yn cydweithio ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ers dros flwyddyn i greu ATGYFODI, cyfuniad arloesol o gerddoriaeth, delweddau a lleisiau o archif sain.
Yn ogystal ag ysgrifennu sgôr wreiddiol, mae John Rea wedi defnyddio lleisiau a delweddau o archif sain yr amgueddfa i roi bywyd i wyth o adeiladau hanesyddol Cymru.
Bydd y digwyddiad unigryw hwn yn cael ei gynnal am un noson yn unig ar ddydd Llun 28ain Hydref.
Mae John hefyd wedi creu ffilm fer, mewn cydweithrediad â Huw Talfryn Walters a Chris Lewis, a fydd yn cael ei dangos yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ar ôl taith o amgylch yr adeiladau.
Mae ATGYFODI yn gosod arteffactau diwylliannol a hanesyddol mewn gwahanol gyd-destunau, yn gorfforol ac yn glywedol, ac yn arbrofi gyda strwythurau cerddoriaeth o hen ganeuon gwerin a hanesion personol.
Meddai John:
“Y prosiect hwn yw penllanw’r gwaith ymchwil i’r archif sain a delweddau hynod ddiddorol yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, a hynny wrth gyfansoddi cerddoriaeth a seiniau sy’n rhoi bywyd i’r adeiladau hanesyddol hyn.”
Am ragor o wybodaeth am ATGYFODI cysylltwch â John Rea ar 07850 588918.
sylw ar yr adroddiad yma