Rhowch heibio bethau’r haf, meddai Eirian Dafydd, ac oedi am funud i gymryd golwg ar yr hyn sydd gan yr hydref i’w gynnig.
Efallai bod y dinesydd mabwysiedig yn ei chael yn haws i diwnio i mewn i arwyddion yr hydref na’r un brodorol. Ond i ba bynnag gategori mae un yn perthyn, bydd bellach yn ymateb i droad y rhod. Mae’r dillad haf yn cael eu rhoi heibio a’r siwmperi yn ailymddangos; bydd mwy o gawl a llai o hufen iâ yn y fasged siopau a’r gwres canolog yn cael ei switsio ymlaen wrth i’r tymheredd ddisgyn.
Ond os mai dechrau ymateb mae pobl, bu byd natur yn dangos yr arwyddion ers wythnosau. Ddiwedd Awst roedd y gwenoliaid eisoes yn casglu ar y gwifrau gan drydar am y daith hir o’u blaenau. Ac mae’r teloriaid (warblers) yn gadael am wledydd cynhesach. Bu llai a llai o adar du i’w gweld yn y gerddi wrth iddynt guddio yn y llwyni tra’n bwrw eu plu a thyfu rhai newydd. Tawelach hefyd yw’r coed heb ganu parhaus yr adar sy’n nodweddiadol o’r tymor nythu.
O droedio’n dawel yn y goedwig gellir gweld y wiwer yn casglu cnau ar gyfer y gaeaf. A pha le bynnag y bydd un yn edrych ni ellir ond rhyfeddu at lawnder storfa fwyd byd natur: y mieri’n drwm dan fwyar sy’n cochi a duo wrth aeddfedu, sypiau o aeron coch yn hongian o’r griafolen (rowan tree) a’r ddraenen wen, concyrs aeddfed ar y gastanwydden, y dderwen yn arddangos ei chnwd o fes a bwndeli o hadau yn crogi ar yr onnen. Mae’r dail yn dechrau troi eu lliw gydag addewid o balet lliwgar cyn bo hir. Yma a thraw mae deilen grin wedi disgyn gan ragflaenu y cawodydd wedi noson o wynt. Ac ar lawr y goedwig neu ar foncyffion coed a ddisgynnodd mewn gaeafau a fu bydd madarch a phob math o ffyngau yn tyfu’n gyflym.
Os na fuoch am dro yn diweddar, ewch yn awr. Mae byd natur yn ddigon o sioe wrth i’r hydref agosáu.
sylw ar yr adroddiad yma