Gan Eiry Palfrey
Os cawsoch eich geni rhwng Medi 22ain a Hydref 22ain rydych chi’n Libra, arwydd awyr dan ddylanwad y planed Gwener.
Mae cyfaddawd yn bob peth i chi, mi fasech chi’n gneud diplomat ardderchog. Mae cariad a serch yn hollbwysig i chi hefyd. Rydych chi’n caru harddwch a boneddigrwydd. Mae’n bosib eich bod chi’ch hunan yn olygus. Rydych chi’n berson hynaws iawn, yn mwynhau cwmni da, ac yn yn gwmni da eich hunan ac yn berson boblogaidd. Gwell gyda chi lawer fod mewn partneriaeth, mae’n gas gyda chi unigrwydd a bod ar eich pen eich hunan. Fe rheol rydych chi’n priodi’n ifanc ( yn aml gyda Libra arall), ac yn aml yn priodi mwy nag unwaith. Rydych chi’n gymdeithasol, yn annwyl iawn, ac wrth eich bodd yn cael amser da. Mae heddwch a harmoni yn bwysig i chi ac fe ewch chi’n bell i gadw’r ddisgl yn wastad. Fel rheol mae gyda chi feddwl agored a ry’ch chi’n ardderchog am gymodi mewn ffrae. Mae’n bosib eich bod yn gerddorol hefyd.
Serch hynny mae wynebu’r gwirionedd yn eich poeni weithiau, ac fe allwch ddweud celwydd i osgoi’r gwir. Rydych chi’n dueddol o ddilyn y llwybr hawsaf mewn bywyd.
Libraid enwog: Margaret Thatcher, Emyr Wyn, Rhodri Morgan, Jan Morris, Nia Caron, Ioan Gruffydd
sylw ar yr adroddiad yma