Gan Eiry Palfrey
Ar Ragfyr 22ain bydd yr haul yn newid arwydd. Mae pawb a aned rhwng y dyddiad hwn a Ionawr 20fed yn perthyn i Capricorn, sef degfed arwydd y Sidydd. Arwydd daear dan reolaeth y planed Sadwrn– sydd yn gwneud Capricorn yn berson uchelgeisiol a difrifol .
Rydych chi’n onest iawn ac yn rhoi cryn dipyn o bwyslais ar ddyletswydd. Efallai bob bywyd weithiau’n ymddangos yn anodd, ond fe fyddwch chi’n ennill yn y diwedd. Rydych chi’n berson dibynnol cyfrifol gyda llawer o hunanddisgyblaeth ac yn ymarferol iawn, ond weithiau fe fyddwch chi rhoi mewn i hunan dosturi.
Fyddwch chi byth yn trystio’ch lwc, mae gwaith caled yn fwy pwysig ichi. Mae gyda chi’r gallu i resymu, a syniad cryf o bwrpas mewn bywyd. Efallai eich bod yn ymddangos yn ddifrifol ond fe allwch fod yn gyfaill annwyl a thriw, sy’n berchen ar hiwmor sych bachog. Rydych chi’n barod i weithio’n galed iawn tuag at eich nod mewn bywyd. Mae hunan barch a chael parch bobl eraill yn bwysig iawn i chi.
Capriconiaid enwog: Menna Elfyn, Barry John, Shirley Bassey,Richard Nixon, Hedd Wyn
Digon difyr, ond rwy’n hoffi hwn, hefyd!
http://www.thepoke.co.uk/2014/10/21/skeptical-tweet-of-the-day/