Gan Eiry Palfrey
Llun gan Suzanne Carpenter
Os cawsoch eich geni rhwng Mehefin 21ain a Gorffennaf 19eg – rydych chi dan arwydd Cancer. Arwydd dŵr dan reolaeth y lleuad, er bod yr Haul ar ei anterth adeg eich geni. Person annwyl a thriw, ac yn berson sensitif, hynod o emosiynol, a dagreuol ar adegau. Mi fyddwch chi’n dianc i’ch cragen fel y cranc os fyddwch chi’n synhwyro perygl, neu’n ei chael hi’n anodd i wynebu sefyllfa.
Fe allwch chi fod yn swil ac ofnus, ond mewn argyfwng rydych chi’n graig o ddewrder. Dydych chi ddim mor feddal a mae rhai pobl yn dybio a mi fyddwch yn cuddio’ch teimladau dyfnaf yn aml o dan gragen galed y cranc. Mae’r cartre a’r teulu’n hollbwysig i chi. Rydych yn berson teryngar tu hwnt – i’ch teulu, i’ch gwlad ac i’ch cyfeillion. Eich ty yw eich castell, ac mi fyddwch wrth eich bod yn ei harddu; a rydych chi’n giamster am gadw ty a choginio.
Yn feddyliol, mae’r gallu gyda chi i ganolbwyntio’n ddwys ar unrhyw bwnc. ac mae gyda chi ddychymyg byw iawn a chof aruthrol. Rydych chi’n hoffi casglu pethau, yn ymddiddori mewn hanes ac yn gwirioni ar anifeiliaid anwes yn enwedig cathod. A phan bydd pethau’n mynd yn drech na chi mae angen lle tawel arnoch chi i encilio iddo.
Ond i’r gwrthwyneb rydych chi’n dal dig ac yn pwdu’n hawdd, a bydd unrhyw feirniadaeth yn eich brifo’n ddwfn.
A rydych chi un ofnadwy am boeni a becso am unrhyw beth!
Canseriaid enwog – Hywel Gwynfryn, Huw Ceredig, Helen Mary Jones, Katherine Jenkins, Alwyn Samuel, Sian Lloyd (y tywydd)
sylw ar yr adroddiad yma