Gan Eiry Palfrey. Llun gan Suzanne Carpenter
Os cawsoch eich geni rhwng Ionawr 21ain a Chwefror 19 rydych chi’n perthyn i arwydd Aquarius; arwydd daear dan reolaeth y planed oriog Uranus.
Rydych felly yn berson gwreiddiol, anibynnol, ‘gwahanol’, ac yn un sy’n mwynhau rhyddid, er y gallwch chi fod yn rebel croes ac anodd ar adegau. Mae gyda chi deimladau cryf dros neu yn erbyn pob peth, a mae hynny’n eich gwneud i ymddangos yn styfnig weithiau.
Mae pethau newydd gwahanol bob amser yn apelio atoch chi. Mae’n haws i chi garu llawer o bobl nag un person, a gall hynny eich gwneud i ymddangos yn oeraidd a phell.
Does dim dal beth wnewch chi nesa, rydych chi’n berson yn llawn cywreinrwydd ac yn glyfar tu hwnt. Eich nod yw mynegi’ch gwybodaeth. Rydych chi’n dueddol i ddelfrydu pob peth. Mae’n gas gyda chi gaethiwed, mae rhyddid yn holl bwysig i chi, a fe fynnwch chi gael eich rhyddid a’ch ffordd eich hunan bob amser.
Rydych chi’n caru dynoliaeth, ac mae’ch cyfeillion yn bwysig iawn i chi. Rydych chi’n ffrind triw a ffyddlon ond cewch eich brifo i’r byw os bydda cyfaill yn eich gadael i lawr.
Aquariaid enwog: Barry Humphreys (Edna Everage), Syr Geraint Evans, Rupert Moon, Syr Wynff Elis-Owen, Rachel Thomas, Germaine Greer
sylw ar yr adroddiad yma