Argraffiadau o Japan- gwlad y glân

4 Mehefin 2014

Gan Gwenda Richards

DSC_0219

Dysgu oddi wrth y Siapaneaid

Faint ohonoch chi fydde’n mynd allan o’ch ffordd, wrth gerdded i lawr y stryd, i bigo darn o sbwriel a dodi fe yn eich poced tan i chi ffeindio bin i’w waredu? Dyna’n union beth weles i yn Kyoto, hen brifddinas Japan yn ddiweddar tra yno ar wyliau gyda’r teulu. Mae Cyngor Caerdydd yn gwario saith miliwn o  bunnau’r flwyddyn ar lanhau ein strydoedd, ond yw hi’n bryd i bawb gwneud eu rhan? Ar wefan fixmystreet.com , gwefan handi i gysylltu â’r  cyngor, mae llawer o achwynion am sbwriel a baw ci ar strydoedd Caerdydd. Y  gwyn yw bod ‘’neb’’ (h.y. y cyngor), yn gwneud dim yn ei gylch. Oes ‘na rywbeth gennym ni i ddysgu o bobl Siapan tybed?

Mae’n rhaid taw Japan yw’r wlad taclusaf a glanaf yn y byd ac mae agweddau’r Siapaneaid tuag at sbwriel, a glendid trefol yn gyffredinol, yn agoriad llygad. Roedd y dyn welodd y papur siocled ar y pafin  yn Kyoto ddim yn ‘fusspot’’ neu’n ymddwyn fel rhyw Victor Meldrew-san, ond mae’r meddylfryd yma o barch tuag at yr amgylchedd yn rhan annatod o psyche’r genedl.

Y shinkansen

Y shinkansen

Mae ‘na arwyddion mewn ambell i fan yn dweud wrth bawb am fynd a’i sbwriel adre da nhw ond rhywsut does dim mo’u heisiau. Ar y daith mewn shinkansen– y bullet train- o Tokyo i Kyoto, fe weles i deuluoedd yn mynd a dod, gyda’u bocsys bento’n llawn  o bob math o ddanteithion i fwyta ar y daith, ond yn mynd a pob briwsionyn bant o’r trên gyda nhw. Oherwydd doedden nhw ddim yn gadael dim ar eu hôl, fydde chi ddim yn gwybod eu bod wedi bod yn gyd deithwyr.

Mae’r agwedd yma mor wahanol i ni yng Nghymru. Yn ôl arolwg Beaufort ar ran Cadw Cymru’n Daclus (2010) roedd hanner cant y cant o’r bobl a holwyd wedi taflu sbwriel yn ystod y flwyddyn yn lle defnyddio bin neu fynd a’r eitem adref gyda nhw- gyda 78% o’r rhain rhwng 16-34 oed. Ond roedd 51% o’r ‘drwg weithredwyr’ yn teimlo’n euog iawn am eu gweithredoedd. Felly…. er….pam gwneud? Diogi? Dim digon o finiau? Neu rheini’n llawn.

hoover

Glanhau gorsaf gyda’r hwfer

Roedd hi’n agoriad llygaid i mi weld glanhawyr yn mynd a chlwtyn ar hyd canllawiau metel ar y Metro- gyda rheini yn sgleinio beth bynnag. A dyn yn defnyddio hoover i fyny ac i lawr grisiau’r orsaf drenau- a dim smic o ddwst i’w weld yn unman. A pheidiwch sôn am y toiledau! Nawr bo fi wedi cyrraedd yr oedran lle mae gen i ddiddordeb mawr mewn lleoliadau toiledau cyhoeddus, fe dales i sawl ymweliad â chyfleusterau cyhoeddus Japan a’r pethau a’m trawodd oedd a) cymaint ohonyn nhw oedd ambiti’r lle a b) pa mor lân oedden nhw a c) heb eu fandaleiddio o gwbl. Hyd yn oed mewn gorsafoedd, parciau, a’r malls.

Roedd mynd i’r tŷ bach yn dipyn o siwrne i’r dyfodol. Fe gyfrais i naw botwm ar ochr y sedd i roi pob cyfleuster posib ar waith-botwm i dwymo’r sedd, jet bach (neu fawr) o ddŵr i’w anelu at wahanol rannau o’ch peth-chin-galw, gyda botwm arall i newid y cyflymder a’r gwres, botwm i fasgio’r ‘’sŵn’ gyda synau arall fel dŵr yn sisial,  ac wrth gwrs y fflysh. I gyd yn gweithio, yn berffaith lan , digonedd o bapur tŷ bach (moethus!) ac yn rhad ac am ddim. Gyda’r holl ffwdan y dyddiau yma am gau toiledau cyhoeddus yng Nghymru roedd hi’n braf cael bod mewn gwlad sydd wedi rhoi’r pethau bach yn flaenoriaeth. Roedd hi’n braf gweld pobl yn parchu’r llefydd hyn hefyd sy’n dod a fi at brif bwynt yr erthygl sef parch. At gyd ddyn, yr amgylchedd a hunan barch.DSC_0224 Wrth adael y maes awyr Narita ar ein ffordd i ganol dinas Tokyo, fe syllais allan o’r ffenest ar y bobl oedd wedi bod yn gosod ein  bagiau i mewn i grombil y bws. Heb eithriad, wrth i’r bws adael y stondin, roedd y gweithwyr yn moesymgrymu- i bob bws!!  O’n i’n meddwl bo fi’n gweld pethau, ond na, roedd y parch yma i deithwyr, ymwelwyr, neu’r dyn a’r fenyw ar y stryd yn rhywbeth cyffredin.  Pan ddaeth y ‘conductor’ i mewn i ’n cerbyd ni ar y shinkansen, roedd yn bowio i bawb yn y cerbyd, mynd ati i gasglu tocynnau, ac yna bowio eto wrth adael. Anhygoel. Allwch chi ddychmygu hyn yn digwydd ar Arriva Trêns? Doedd dim llawer o dwristiaid yn Japan fis diwethaf ac yn sicr dim llawer o Orllewinwyr a bob tro o’n i’n stopio i ddarllen arwydd, neu edrych ar fap, roedd rhywun caredig yn stopio i ofyn a oedden ni eisiau help. Un tro rhoddes i arian i ddyn am fod angen newid ar gyfer peiriant tocynnau- bant a fe rownd y gornel a minnau’n meddwl taw dyma’r tro olaf bydden i’n gweld y papur 10,000 yen. Ond fel winci ddath e nol a’r arian man a gwenu’n Zen-aidd braf wrth fwydo’r peiriant.

DSC_0107

Rhodri’r mab yn prynu diod

Mae peiriannau di -ri yn Japan a vending machines rif y gwlith ymhob twll a chornel- gallwch chi brynu beth wmbreth o stwff gan gynnwys alcohol, ar y stryd. O’n nhw wedi’u fandaleiddio? Na. Oedden nhw’n gweithio? Oedden wrth gwrs. Dyw pobl ddim yn yfed a bwyta wrth gerdded yn Japan felly maen nhw’n dueddol o yfed a bwyta wrth y peiriannau gwerthu Ond doedd dim can neu botel wag ar eu cyfyl— mond yn y biniau ail gylchu gerllaw. Yn ôl yr arolwg mae bron i 50% o sbwriel ar y stryd yn stybs sigarennau, wedi eu gwneud o cellulose acetate maen nhw’n cymryd 10 mlynedd i bydru. Ac mae gan ‘smygwyr yr hawl i smygu mewn tai bwyta a thafarndai yn Japan a’r syndod mawr oedd gweld pobl yn smygu mewn cytiau perspex mewn parciau. Ond doedd dim olion brwnt i’w gweld ar y stryd. Dim.

IMG_0188

Fix my street- gwefan y cyngor

Y llynedd fe aeth Cyngor Caerdydd i’r afael a’r broblem gan ei fod yn gwario £7m y flwyddyn ar lanhau’r strydoedd ar ein holau. Lansiwyd ymgyrch fis Ebrill 2013 i ddirwyo unrhyw yn y fan a’r lle am daflu sbwriel. Eleni roedd yna 449 o ‘ddigwyddiadau’ (incidents) yn ymwneud a sbwriel yn y ddinas.(11353 yn ystod y 5 mlynedd diwethaf). Eleni mae gwerth £33,675 o ddirwyon wedi’u rhoi ond dim ond £23,400 wedi casglu, yn ôl ymholiad FOI.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma