R u t h M c l e e s
Chroma Utopia
8 – 30 o Dachwedd 2013
Cyflwyna gallery/ten arddangosfa unigol gan yr artist Ruth Mclees. Graddiodd Mclees o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd yn 2004 ac ers hynny, mae wedi arddangos ei phortreadau yn eang ar draws y D.U.
Mae ‘Chroma Utopia’ yn gorff o 27 o weithiau newydd sy’n cyflwyno arbrofion diweddaraf Mclees o gylch y man croesi rhwng celf a gwyddoniaeth. Diddordeb Mclees yw haenau – gan osod gwydreddau tryloyw dros wyneb y peintiadau – ac mae’r arddull yma wedi dod yn nodwedd adnabyddus o’i gwaith. Gwela’r casgliad hwn ddilyniant naturiol i bortreadau Mclees, lle defnyddia wydreddau, resin a glud yn fedrus i dynnu sylw a datgelu y ffigwr wedi’i baentio.
Wedi’i hysbrydoli gan waith y cemegydd dadansoddol Almaenig o’r 19eg ganrif, F. F. Runge, trawsnewidiodd Mclees ei stiwdio i mewn i labordy er mwyn archwilio potensial artistig deunyddiau gwyddonol a diwydiannol. Cyflwynir yma y canlyniadau sy’n deillio o’r arbrofi hwn mewn cyfres o luniau lliwgar fel tlysau, lle gwahenir pigmentau i’w cydrannau pur i greu gwydreddau cromatig – ac ymddangosir ffigurau iwtopaidd ohonynt; ‘harddwch perffaith a lliw perffaith yn uno.’
Bydd yr holl waith ar werth a’r cynllun casglu ar gael. Am fwy o wybodaeth am yr artist ac i lawrlwytho catalog yr arddangosfa, gwelwch www.gallery-ten.co.uk.
gallery/ten, Llawr cyntaf 23 Windsor Place, Caerdydd CF10 3BY.
029 2034 5978
sylw ar yr adroddiad yma