Arddangosfa Agored Caerdydd 2013

14 Hydref 2013

gan Cat Gardiner, Curadur Arddangosfa Agored Caerdydd/Cyweithfa Gelf Caerdydd

Cynhelir yr ail Arddangosfa Agored Carerdydd mewn siopau gwag yn Arced y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas ac unwaith eto, o dan arweiniad Cyweithfa Gelf Caerdydd.

Gweithreda Caerdydd Agored fel llwyfan ar gyfer arddangos y celf gyfoes orau o alwad agored, ochr yn ochr â gwaith safle-benodol gan artistiaid dethol. Mae gwaith artistiaid, ffotograffwyr, gwneuthyrwyr, ceramegwyr, cynllunwyr a cherflunwyr o Gaerdydd a’r Fro yn cael eu dangos – o’r ifanc i artistiaid sefydledig – yng nghanol y ddinas trwy gydol mis Hydref.

Wedi llwyddiant y llynedd, bydd yr Arddangosfa Agored y flwyddyn hon yn fwy o ran maint ac o ran hyfdra. Bydd yr arddangosfa ei hun yn cael ei chartrefu yn #13 Arcêd y Stryd Fawr, tra trawsnewidir #22 i fod yn fan prosiect artistiaid preswyl Arddangosfa Agored Caerdydd. Bydd y gofod prosiect yn cynnwys tri artist preswyl a fydd yn creu gwaith safle-benodol yn y gofod – Sasha Kingston fydd y cyntaf, 1-5 Hydref, gan gynnal dosbarthiadau gwneud papur wedi’i seilio ar yr amgylchedd trefol; yr artist Celia Johnson o 8-12 Hydref a fydd yn creu dyluniau byw sy’n ymateb i leoliad yr arddangosfa ac, drwy gydol Gwyl Swn, yr artist fideo Casey Raymond o’r 16-20 Hydref a fydd yn arwain sesiynau creu ‘zines’. Mae’r artistiaid yma yn gwahodd y gynulleidfa i gymryd rhan ac ymateb i’w gwaith.Mae’r Arddangosfa Agored yn addo bod yn un o uchafbwyntiau clwstwr o ddigwyddiadau celfyddydol sy’n digwydd o gwmpas y ddinas drwy gydol mis Hydref, gan ddod â byd celf Caerdydd a’r Fro i’r cyhoedd ehangach.

Sefydlwyd Cyweithfa Gelf Caerdydd yn 2012 gan grŵp o artistiaid, gwneuthurwyr a churaduron o’r un anian mewn ymateb i’r drafodaeth sy’n tyfu o amgylch y byd celf cyfoes yng Nghaerdydd, gyda’r nod o gynnig llwyfan ar gyfer arddangos a hyrwyddo celf, crefft a dylunio gan wneuthurwyr yn seiliedig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

1-27 Hydref 2013 | Mawrth – Sul 10-5.30yh

13 & 22 Arcêd y Stryd Fawr Caerdydd CF10 1BB

 cardiffartscollective.co.uk     info@cardiffartscollective.co.uk     @cardiffopen     @cdfartscoll

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma