I ddathlu ei phen-blwydd cyntaf yn ei chartref parhaol, cyflwyna gallery/ten arddangosfa gymysg o waith newydd gan artistiaid a chynllunwyr yr oriel.
Cynhwysa Gaeaf waith newydd gan y paentwyr André Stitt, Elfyn Lewis a Brendan Stuart Burns, ynghyd â Seren Morgan Jones, yn dilyn llwyddiant ei harddangosfa unigol yn yr oriel. Bydd gwaith print newydd gan raddedigion o’r Coleg Celf Brenhinol Carwyn Evans a Molly Rooke yn eistedd ochr yn ochr â gwaith ceramig gan Natalia Dias + Sarah Worgan, enillydd gwobr Fresh ym Miennale Cerameg Prydain eleni.
Bydd ystafell 2 yr arddangosfa yn cynnwys adran gweithiau bychan lle bydd pob darn yn mesur dim mwy na 30x30cm.
Bydd Gaeaf yn arddangosfa newidiol, gyda darnau wedi’u gwerthu’n cael eu cyfnewid â gwaith newydd. Bydd yr holl waith ar werth a’r Cynllun Casglu ar gael. Am fwy o wybodaeth am yr artistiaid a cynllunwyr gwelwch www.gallery-ten.co.uk
G a e a f
6 Rhagfyr 2013 – 1 Chwefror 2014
gallery/ten, llawr cyntaf 23 windsor place cf10 3by
sylw ar yr adroddiad yma