Gyda gwanwyn ar y gorwel, mae pobl siop Cant a mil vintage yn adfywio eu sgiliau gwau gyda chymorth Morwena sy’n gweithio yn y siop. Felly, beth am gyfuno dathlu’r Pasg â gwau?
Beth sydd ar y gweill? Wel, am y cyfarfod cyntaf, gallwch gynllunio gwau cywion bach. Bydd popeth dych chi angen yno – gweill, gwlân, cyfarwyddiadau, cymorth ac, wrth gwrs, sgwrs!
Croeso mawr i wewyr proffesiynol a dechreuwyr pur.
Grŵp gwau: 11yb Dydd Mercher 25ain Mawrth
Cant a mil vintage, siop a chaffi, 100 Whitchurch Road, Mynydd Bychan, CF14 3LY.
Ffôn: 02920 212474 jo@cantamilvintage.com
sylw ar yr adroddiad yma