Mae cyfle i fwynhau teithiau bwyd arbennig fel rhan o Ŵyl Fwyd a Diod y Bontfaen wythnos nesa’. Heno yn nhy bwyta Arboreal yn y dref, fe lansiwyd y fenter gyda digwyddiad lle roedd cynnyrch lleol ar gael i’w blasu.
Mae cwmni Loving Welsh Food cynnig teithiau a saffaris bwyd, gweithdai a chyflwyniadau am gynnyrch Cymreig a thraddodiad coginio yng Nghymru, ac yn ystod yr ŵyl bydd y cwmni’n cynnig teithiau bwyd a diod “Pice bach a Gwin o Gymru” (Dydd Sul 24ain) a “Te Prynhawn a Gwin y Fro” (Dydd Llun 25ain).
Bydd y teithiau yn mynd ag ymwelwyr ar daith o gwmpas Bro Morgannwg mewn bws, i gael blasu bwyd a diod lleol a chwrdd â’r cynhyrchwyr.
Sian B Roberts sefydlodd y cwmni, ar ôl mynd ar saffari bwyd a diod yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl.
Wedi mwynhau’r profiad a chlywed am deithiau tebyg yn Chicago, fe benderfynodd Sian roi cynnig ar y syniad yng Nghaerdydd a’r Fro, a’r canlyniad yw Teithiau a Saffaris Bwyd a Diod Loving Welsh Food.
Ymhlith y rhai oedd yn arddangos eu cynnyrch oedd Nic Osgood gyda’i chacennau – (roedd y Raspberry Ruffles yn arbennig) a Fferm organnig Slade. Ac i olchi’r cyfan i lawr roedd gwin perfriog Gwin y Fro o winllan Meadow View tafliad carreg o’r dref. Cafodd pawb hwyl wrth wneud ‘blind tasting’ ac er mawr rhyddhad i Michael ei win ef ennilloedd gyda Champagne go iawn yn ail!
Meddai Sian “Ry ni’n gyfarwydd â bwyd o Ffrainc, yr Eidal, Tsieina, ond dy ni ddim yn gwybod llawer am ein bwydydd a ryseitiau traddodiadol ein hunain.
“Y syniad gwreiddiol oedd cynnig gweithgareddau hwylus a blasus, gan gynnwys ychydig o wybodaeth am ein bwyd a diod yma yng Nghymru – ac i’r ymwelwyr, ambell air o Gymraeg.
“Rwy’n dwli ar goginio, blasu bwyd a diod newydd a darllen am hanes bwyd a diod. Mae’r teithiau a’r saffaris bwyd, y gweithdai a’r cyflwyniadau yn dod â phopeth at ei gilydd – y gwahanol swyddi dwi wedi cael, a’r diddordeb sy gen i ym myd cuisine.”
Mae rhagor o wybodaeth am y teithiau bwyd a diod yn y Bontfaen ar wefan Loving Welsh Food.
Bydd Sian hefyd yn cynnig gweithdai i unigolion yng ngwesty Nos Da ar Orffennaf 15 ac Awst 12, a gweithdai coginio yn Sain Ffagan o Awst 4-7. MI fydd y gweithdai ar y 5ed o Awst ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
sylw ar yr adroddiad yma