Mae golwg di-raen ar Faes Diamond yn yr Eglwys Newydd, lle mae CRICC – tîm ieuenctid Cwins Caerdydd – yn chwarae, ond mae’r clwb wedi dod o hyd i ffordd nofel i godi arian i wella’r adnoddau.
Mae’r clwb yn gofyn i bobl ystyried ailgylchu hen getrys inc, ffonau symudol ac eitemau tebyg eraill sy’n casglu dwst yn y tŷ neu swyddfa drwy wefan arbennig er mwyn codi arian i wneud gwelliannau.
Meddai Huw Jones ar ran y clwb:
“Rydym yn gobeithio bydd pobl yn fodlon gwneud yr ymdrech i ailgylchu nifer o bethau er mwyn codi arian i’n helpu.
“Gofynnwch i ffrindiau a busnesau lleol ac ati os ydynt yn fodlon gwneud yr un peth gan ddanfon cyfeiriad y safle ymlaen atynt. Fel arall, os byddai’n well ganddoch, yna dewch â’ch eitemau i siop CRICC ar fore Sul.
“Mae CRICC yn ddiolchgar am bob ymdrech.”
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am y math o eitemau sy’n addas i’w hailgylchu, fan hyn.
sylw ar yr adroddiad yma