‘Allet ti Beswch!’ Noson lansio hunangofiant Ieuan Rhys

8 Hydref 2013

Ieuan Rhys - Allet ti Beswch!

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ddathlu cyhoeddi Allet ti beswch!, hunangofiant Ieuan Rhys.

Cynhelir y lansiad yn y Wharf, Bae Caerdydd CF10 4EU nos Wener 11 Hydref, 7.30 o’r gloch yng nghwmni Phyl Harries, Keith Davies, Gareth Nash a Karen Elli. Mi fydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Gofynnir yn garedig i chi gadarnhau eich presenoldeb drwy gysylltu â branwen@ylolfa.com, 01970 832 304.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma