ADRODD HANES TEULU HEINI GRUFFUDD

10 Ebrill 2014

gan Huw Onllwyn 

Yn 2013, enillodd Heini Gruffudd gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am ei lyfr, Yr Erlid, sy’n adrodd hanes ei fam, Kate Bosse-Griffiths, yn dianc yn 1937 o’r Almaen – ac o grafangau’r Natsiaid. Mae’r llyfr hefyd yn adrodd hanes gweddill teulu Kate, gan gynnwys ymosodiadau Kristallnacht a marwolaeth erchyll ei mam, Kathe Bosse, yng ngwersyll carchar Ravensbruk.

Bu’r hanes hefyd yn destun un o rhaglenni’r gyfres ‘O’r Galon’, ar S4C. Enillodd y rhaglen hwnnw, sef Y Tren i Ravensbruk, wobrau BAFTA Cymru.

Ar ddydd Gwener, 11 Ebrill, fe fydd Heini’n lansio fersiwn Saesneg o’i llyfr (sef A Haven from Hitler) ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyn y lawns, cefias gyfle i’w holi am Yr Erlid:

Beth sbardunodd chi i ysgrifennu’r llyfr hwn – a pham nawr?

Rhyw ddeng mlynedd yn ôl, gofynnodd fy ewythr, oedd yn byw yn Sweden, imi fynd ato i gael llwyth o ddogfennau’r teulu. Siaradodd yn hir am ei brofiadau e a’r teulu o dan y drefn Natsiaidd, a rhoi rhyw ddyletswydd arna i i wneud rhywbeth â’r holl ddeunydd.  Roedd fy mam hefyd wedi trefnu llu o lythyrau a dogfennau’r teulu yn ystod y cyfnod hwn. Gwnes i lungopiau o’r cyfan i wahanol aelodau’r teulu, ac fe aeth fy mrawd a mi i’r Almaen sawl gwaith at ein perthnasau yno i drafod beth gallen ni’i wneud gyda’r holl ddeunydd.

Ddaeth dim o’r cyfarfodydd dymunol yma, gwaetha’r modd, a phawb yn rhy brysur. Penderfynes, os nad oedd dim arall i ddod o’r cyfan, y byddwn i’n gwneud crynodeb byr o ryw ddeugain tudalen o hanes gwahanol aelodau’r teulu yn yr Almaen, ac efallai’n gwneud argraffiad preifat o hyn ar gyfer y teulu, ac yn bennaf, efallai, ar gyfer y genhedlaeth newydd.

Ond daeth cwmni teledu Rondo ar ein traws.  Fe glywson nhw ein bod i gyd wedi trefnu taith i Berlin ac ro’n nhw am ffilmio’r daith.  Gwrthodon ni, wrth gwrs, ond wedyn fe berswadion nhw fy merch Nona, a’i theulu a minnau, i fynd ar wahân, a dyna wnaethon ni.  Cafodd y rhaglen argraff fawr ar y gwylwyr – ac ennill rhai gwobrau BAFTA Cymru –  a chododd diddordeb cyffredinol yn yr hanes, a doedd dim amdani wedyn ond bwrw iddi i adrodd yr hanes yn llawer mwy manwl nag o’n i wedi’i fwriadu.

Sut wnaethoch chi fynd ati i ysgrifennu’r Erlid?

Roedd tomen o ddeunydd ‘da fi.  Llythyrau, dyddiaduron, adroddiadau am brofiadau, dogfennau o’r cyfnod, rhai miloedd o dudalennau, yn llenwi silffoedd lawer.  Sut ar y ddaear oedd dechrau?  Ro’n i’n barod wedi gwneud crynodeb digon bylchog.

Penderfynes i rannu’r deunydd yn ôl y gwahanol aelodau teulu: fy mam, ei chwaer, ei dau frawd, ac wrth gwrs, ei rhieni.  Ond ro’n i’n teimlo bod angen rhoi cefndir Wittenberg hefyd, er mwyn rhoi’r cyfan mewn cyd-destun, yn enwedig gan fod Wittenberg, lle roedd y teulu’n byw, yn ganolog i’r Diwygiad Protestannaidd. Fanna y dechreuodd Luther a’i gyfeillion wrthwynebu’r Pab a’i gardinaliaid. Ac wedyn, wrth gwrs, roedd dyn yn dod ar draws yr wrth-Iddewiaeth oedd yn yr Almaen – a gweddill Ewrop – ers canrifoedd mawr.  Roedd hyn yn gefndir perthnasol iawn i Hitler a’i gnafon.

Ac roedd hanes y teulu yng Nghymru’n rhan o’r cyfan.  Roedd angen mynd ati i gofnodi peth o ddechreuadau Cylch Cadwgan (grwp o awduron o’r Rhondda), a gweld sut roedd fy mam wedi cael dechrau newydd yng Nghymru.  Y dasg yn y pen draw oedd dod â’r elfennau hyn at ei gilydd.

Sut y cawsoch chich effeithio gan y profiad o ysgrifennur llyfr – ac o wneud y daith i Ravensbruk?

Ro’n i wedi bod i Ravensbrück rwy ddwy waith cyn mynd ati gyda’r llyfr, ac roedd dychmygu sut roedd fy mam-gu wedi dioddef – ymysg y 90,000 o fenywod eraill gafodd eu lladd yno – yn brofiad torcalonnus.

Ymysg y papurau oedd ‘da fi roedd llythyrau gan fy mam-gu at fy mam, ar ôl i fy mam orfod ffoi i Loegr, ac roedd darllen y rhain yn brofiad emosiynol iawn.  Wrth ddarllen y lythyrau hyn roedd dyn yn dechrau cael darlun byw o beth ddigwyddodd, a gweld hefyd sut roedd y teulu’n trio ymdopi ynghanol y cyfan.  Roedd un llythyr yn adrodd hanes chwaer fy mam-gu, a’i lladdodd ei hun fel bod ei phlant yn gallu cael eu derbyn yn Ariaid.  Roedd llythyrau eraill, cyn y rhyfel, yn sôn am yr ymosodiadau ar y teulu adeg Kristallnacht.

Yn aml wrth ddarllen y cyfan, ac wrth gwrs, wrth gyfieithu’r llythyrau Almaeneg i’r Gymraeg, er mor wrthrychol roedd dyn yn ceisio bod, doedd dim modd mynd ymlaen. Byddai dyn yn dod ar draws gwybodaeth newydd, anodd, ac yna ambell lythyr gan rai oedd wedi bod yn y carchardai gyda fy mam-gu.

Roedd y cyfan yn brofiad anodd iawn, a bydd y cyfan bellach yn rhan ohono i tra bydda i.

Beth yw’r neges allweddol y dylair darllenydd ei gymryd o’r Erlid? 

Mae’n werth cofio bod y system Natsiaidd yn gweithredu ar lefel bersonol iawn yn lleol. Heb y cydweithrediad lleol, fyddai’r system ddim wedi gallu gweithio, ond i’r mwyafrif, roedd cydweithredu’n digwydd yn ddigwestiwn.  Mae angen peidio â gorbarchu systemau,  pheidio â chydweithredu mewn system anghyfiawn. Mae lle i anufudd-dod sifil, y math o anufudd-dod a gostiodd ei fywyd i gefnder fy mam-gu.

Er nad ydyn ni’n byw mewn system mor atgas, mae angen i ni holi’n hunain beth yw ein rhan ni mewn trefn sy’n cynnal arfau niwclear, sy wedi achosi rhyfel yn Irac ac Afghanistan, sy wedi bomio Libya, ac sy’n gwerthu arfau i bob rhan o’r byd.

A ydy’r Erlid, mewn gwirionedd, yn alwad i weithredu?

Cofnodi hanes teulu oedd nod y llyfr yn y lle cyntaf.  Ym manylion y digwyddiadau, roedd dyn yn gweld bod cyfrifoldeb moesol unigolion mewn trefn lygredig yn dod yn fwyfwy pwysig.  Os yw’r llyfr yn codi cwestiwn, hwn yw e: beth yw dyletswydd yr unigolyn mewn trefn anfoesol? Mae gwaed ar ddwylo llywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd, ac arfau pwerau mawr y byd sydd yn nwylo llywodraethau sy’n peri dioddef ac sy’n dal i yrru cannoedd ar filoedd ar ffo.

Ar ôl ysgrifennur Erlid, i ba raddau ydych chin deall yn well eich mam, eich teulu a chi eich hun?

Wnaeth fy mam ddim siarad â ni am fanylion yr hanes, er ein bod yn gwybod y braslun.  Wrth dreulio’r llythyrau mae dyn wedi gallu dechrau deall rhai pethau canolog yn ei bywyd. Dywedodd unwaith ei bod yn mesur problemau bywyd ar raddfa Ravensbrück – ac mae hynny’n gosod llu o fan ofidiau yn eu lle, ac yn rhoi dim pwys ar bethau materol. Roedd ynddi hi a’i brodyr a’i chwaer wedyn ddigon o egni i fwrw iddi’n gadarnhaol gyda’u gwahanol yrfaoedd.

O ran y teulu ehangach, mae’n fwy anodd.  Mae rhai wedi diodde mwy yn sgil y profiadau hyn nag eraill. Maen nhw’n dweud bod y dioddef yn ymestyn i’r ail a’r drydedd genhedlaeth.

Ar wahân i ennill gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2013, pa ymateb ydych chi wedi ei gael ir Erlid?

Mae’r gymdeithas Gymraeg yn deuluol ac agos iawn, ac rwy wedi syfrdanu bod cymaint o ddiddordeb yn y llyfr.  Un peth hynod o braf yw bod dyn wedi gallu rhannu’r hanes gyda llu o gymdeithasau, a chael cwrdd â phobl wych sy’n cynnal y bywyd Cymraeg diwylliannol ledled y de.  Doedd dim yn well na bod ymysg dysgwyr brwd y Fenni’n ddiweddar.  Mae hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth.

 

Nodiadau

 

1. Cyhoeddir Yr Erlid a A Haven from Hitler gan y Lolfa.

2. Mae Heini Gruffudd yn dad-yng-nghyfraith i awdur yr erthygl.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma