Adolygiad Cicchetti yn Radur

10 Mehefin 2014

gan Huw Onllwyn 

Nid yw byw yn Radur yn fel i gyd.

O’r tu allan, efallai fod y tai mawr crand, yr ysgolion da, y ceir drudfawr a’r clwb golff penigamp yn rhoi’r argraff fod y gymuned fach hon yn gornel o baradwys. Ond, och a gwae, fel pob cymuned, ‘roedd ochr ddu i’r pentref.

Mater o gywilydd i drigolion Radur oedd diffyg lle braf i fynd am fwyd yn yr ardal hyfryd hon o’r brif-ddinas. Yn wir, roedd angen i ni fynd mor bell a Phentrepoeth er mwyn dod o hyd i unrhyw fath o fwydlen oedd yn werth ei hagor (jest about), sef Tafarn Ty Nant.

I’r de mae anialwch Danescourt, cartref y Radyr Court – sef un o’r tafarndai mwyaf erchyll yr ochr yma i Melbourne.

Mae’n wir fod gennym siop Spar, banc, fferyllydd, swyddfa bost ac optegydd sy’n siarad Cymraeg. Ond, ooohh, yr embaras o gael ymwelwyr o bell, a gorfod cyfaddef fod Radur yn fethiant llwyr o ran adloniant gastronomig.

Diddorol iawn, felly, oedd gweld bwyty newydd yn agor ar stryd fawr y pentref (wel, ‘stryd fach’ y pentref), sef Cicchetti. Nid oes ganddo wefan hyd yn hyn, ond mae’n rhan o’r grwp Trattoria, sydd eisoes yn cadw bwytai ym Mhontypridd a Talbot Green. Dyma ychydig o wybodaeth gefndir oddi ar wefan y grwp (http://www.trattoriarestaurant.com):

“Trattoria are family owned and family run restaurants located in the hearts of Talbot Green, Pontypridd and Bridgend, we hope you like what you see here, we are quite confident you will love us once you dine with us!

The restaurants have been serving the same great food under the guidance of the Florimonte family since 2004. The Florimonte family is from San Giovanni a Piro which is a town and comune in the province of Salerno in the Campania region of southern Italy. The restaurants offer superb authentic Southern Italian cuisine that reflect the family’s origins in the Campagna region of Italy”.

O’r tu allan, mae’r bwyty’n edrych yn ddeniadol a phert – ac mae’r ddwy ystafell fwyta’n eich gwahodd i le cyfforddus a llawn cymeriad. Mae’r lle’n arogli’n dda – ac mae defnydd helaeth o bren ‘rustic’ a silffoedd bobman yn llawn pasta, olew olewydd a danteithion Eidalaidd eraill (y cyfan ar werth). Yn wir, mae’n lle braf iawn i fod.

Mae’r staff yn Eidalwyr rhonc – gan gynnwys y staff sy’n coginio. Yn wir, mae’r anhawster ieithyddol a geir wrth archebu bwyd yn ychwanegu at y teimlad o fod dramor.

‘Roeddwn wedi bwriadu sgwennu am Cicchetti yn dilyn aduniad bach gyda hen ffrindiau ysgol (Rhydfelen, 1942 hyd at 1949). Yn anffodus, dim ond wedi i ni archebu tair potel o win (braf iawn) y daeth yn amlwg fod 10 allan o’r 12 ohonom yn gyrru. I mi a’r person lwcus arall ‘roedd hyn, wrth gwrs, yn newyddion gwych iawn. Ond, o’r herwydd, er i mi gofio mwynhau noson hyfryd iawn – a chael y pizza gorau rwyf erioed wedi ei gael (llysiau yn unig, tua £9.00) nid oedd fy nghyflwr ar ddiwedd y noson yn fy ngalluogi i nodi yn yr adroddiad hwn union rhinweddau’r bwyd, y diod a’r gwasanaeth. Fe ddaeth 11.30pm yn llawer rhy gyflym, ac fe ddringais y bryn yn ol i fy nghartref yn wen o glust i glust.

Yn ffodus i ddarllenwyr brwd Pobl Caerdydd, fodd bynnag, cefais gyfle i fynd yno amser cinio’r diwrnod nesaf – am bryd o fwyd gyda f’annwyl wraig a f’annwyl chwaer yng nghyfraith. Fel y noson cynt, roedd y lle’n brysur – ac mae’n amlwg bod cwsmeriaid yn dod yno’n gyson i fwynhau’r arlwy. ‘Roedd dau gwrs yn costio £9.95.

Cawsom i gychwyn:

Myfi: salad cynnes gyda ffacbys a selsig eidalaidd (‘warm chick pea salad with chorizo pomodirini and harissa dressing’). Hyfryd iawn oedd hwn – yn llawn blas cyfoethog y selsig a’r ffacbys ffres, hufenog. Hyn oll ar wely o ddail tyner a melys. Yum.

Y ddwy arall: rhannwyd dau ddarn o bren ac, ar un, cigoedd Eidalaidd (parma ham, salami ayb) ac ar y llall, llysiau wedi eu rhostio mewn olew olewydd (‘wood board: mixed cured meats or grilled vegetables on an olive wood board’). Gorffenwyd y cyfan gyda brwdfreyddd a chanmoliaeth uchel. Cefais bron dim o’r cynnyrch i’w flasu.

Prif gwrs

Myfi: ‘Roast Chicken Breast with Sliced Field Mushrooms with a white wine sauce’: hollol wych. Ddim yn rhy hufenog, y cyw iar yn dyner a defnydd hudolus o berlysiau yn y saws.

Fy ngwraig: Tuna mewn saws tomato ac olewydd (tonno: pan fried tuna steak with olives, capers and cherry tomato sauce). Y pysgodyn wedi ei goginio’n dda, ddim yn rhy wydn – a’r saws yn gyfuniad perffaith o’r tomato, olewydd a pherlysiau ffres.

Fy chwaer yng nghyfraith: salad cyw iar. Ddim cystal. Dim digon o gyw iar ar ychydig o ddail gwyrdd. Druan ohoni.

Rhannwyd un pwdin, sef Tarten mafon  (£3.95 os cofiaf yn iawn). Eto fyth, roedd hwn yn hyfryd – gyda blas y mafon yn ddigon amlwg a’r spwng yn ysgafn a ddim yn rhy felys. Diweddglo da i’r cinio, gyda Cappucino digon dymunol.

Dwy awr hyfryd iawn – a chawsom gyfle i ddweud helo wrth ambell i Gymro Cymraeg arall a oedd unai yn pasio heibio ffenest y bwyty neu’n eistedd ar fwrdd gyferbyn.

O’r diwedd, felly, mae Radur wedi cael bwyty penigamp a lle hyfryd i fwyta, neu i fwynhau coffi bach neu lased o win. Mae o fewn 3 munud i orsaf dren Radur ac mae parcio’n rhad ac am ddim ar y strydoedd o amgylch y bwyty.

Felly cadwch draw, da chi.  Mae’n ddigon prysur yn barod a ‘dwi am fod yn siwr y bydd bwrdd ar gael i mi pan fyddaf am fynd yno’r tro nesaf. Yn fuan.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma