Mae casgliad o ganeuon cwsg gan frenhines y delyn yn tawelu plant Heledd Owen…
Mae na un ar hugain o ganeuon ar y cryno ddisg – oddeutu hanner gyda Catrin ar y delyn yna’r hanner arall gyda offerynwyr arall megis Bryn Terfel, Julian Lloyd Webber ar y cello ac yna llond llaw gyda rhai o blant y ddinas yn canu.
Ymateb fy merch i Martha sy’n naw mis i’r cryno ddisg oedd golwg o syndod i ddechrau yna gwen a gigl. O’n rhan i, y gosodiadau gyda’r corau plant yw uchafbwynt y CD – ‘The Dove’ gan Karl Jenkins gyda chor Ysgol Treganna yn canu a ‘Suo Gan’ gyda Bryn Terfel a chôr Ysgol Gwaelod y Garth i’ll dau yn sêr.
Os taw edrych am un gân dda i lawrlwytho i ddefnyddio mewn stafell wely plentyn yw’r nod, yna mae ‘Ar Lan y Môr’ yn hyfryd neu unrhyw un o’r rhai gyda Catrin yn chwarae yn unigol. Yn bersonol doeddwn i ddim mor hoff o ‘Greensleeves’ ar y delyn, ond i fod yn deg falle bod hynny rhywbeth i neud gyda’r ffaith bod gan Martha degan sy’n chwarae Greensleeves ar ‘loop’…
Mae ‘Little Cloud’ a ‘My Child’ yn gwneud i’r casgliad deimlo’n fodern, gyda ‘Over the Rainbow’ a ‘Hush Little Baby’ tuag at ddiwedd y casgliad yn plesio’r mamau (neu tadau!) ‘soppy’ fel fi.
Cryno ddisg gwych i gael yn y car os i chi hanner ffordd lan yr A470 neu’r M4 a wedi gwrando ar Cwm Rhyd y Rhosyn ac yn barod am bach o lonydd – roedd Martha a’i brawd Llew yn cysgu erbyn y drydydd gân (tip i Kate os fydd hi angen hedio am Ynys Môn neu Balmoral).
Lullabies – Catrin Finch – Deutsche Grammophon 2013
am fyw o wybodaeth am Catrin Finch ewch i catrinfinch.com
sylw ar yr adroddiad yma