Hanes adeilad Chapter yw ysbrydoliaeth arddangosfa newydd o waith fydd yn cael ei arddangos yn yr Oriel o’r wythnos nesaf ymlaen.
Mae Richard Woods wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ei drawsnewidiadau pensaernïol a phaentiadau a cherfluniau sy’n uno hanes y celfyddydau addurnol, dylunio swyddogaethol a iaith graffeg â delweddau ac arwynebau synhwyraidd a ffraeth.
Mae ei ymyriadau pensaernïol yn ymwneud yn bennaf â gosod arwynebau newydd ar strwythurau presennol, ‘twist’ abswrd ar gwlt DIY a gwelliannau i’r cartref.
Ar ran Chapter, aeth Woods ati i greu darnau newydd o’r enw Inclosure Acts, yn yr Oriel ac ar gyfer y blwch golau. Mae’r rhain wedi eu hysbrydoli gan hanes yr adeilad — sydd ar safle hen farchnad wartheg — a chan y Deddfau Cau Tir (1604-1914), a arweiniodd at drawsnewidiad radical i gaeau a thir comin yng nghefn gwlad. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd bron i saith miliwn erw o dir eu trosglwyddo i berchenogaeth breifat — lle bu unwaith gaeau mawr, cymunedol, roedd y tir bellach yn llawn rhwystrau, gwrychoedd a ffensys, a diflannodd yr hen ffiniau.
Yn gyferbyniad â’r gwaith hwnnw, mae cyfres o brintiau mono ar furiau’r Oriel yn cyfeirio at fywyd maestrefol. Yn seiliedig ar efelychiadau o addurniadau ffug-Duduraidd, mae’r paentiadau yn fan cyfarfod i swbwrbia a Neo Geo — y gorffennol yn y dyfodol.
Ganwyd Richard Woods ym 1966 yn Swydd Gaer a chafodd ei addysg yn Ysgol Gelf Winchester ac Ysgol Celfyddyd Gain y Slade. Yn 2014, cydweithiodd Chapter gyda Woods i gynhyrchu ‘Cardiff Rebuild’, gwaith ar dir Castell Caerdydd yn rhan o Caerdydd Gyfoes.
Mae Woods wedi arddangos ei waith yn rhyngwladol ac mae ei brosiectau nodedig diweddar yn cynnwys comisiynau mawrion ym Mhrifysgol Caerfaddon (2014); ‘A Maze for Yorkshire’, Wakefield (2013); Cronfa Celfyddyd Gyhoeddus a Thŷ Lever, Efrog Newydd (2010) a chydweithrediad ar amrywiaeth eang o ddodrefn gydag Established & Sons. Mae gwaith Woods yn rhan o sawl casgliad pwysig, gan gynnwys Casgliad Saatchi, Llundain, Casgliad Frank Cohen, Manceinion/Wolverhampton a Chasgliad Jumex, Mecsico.
Oriau ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun. Gallwch weld Bad Bricks yn y caffi yn ddyddiol rhwng 8.30am a 10.30pm, 7 diwrnod yr wythnos.
sylw ar yr adroddiad yma