gan Nia Percy, Rhiant-Lywodraethwyr yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch
Cynhaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus yng Ngorllewin Caerdydd heno i drafod dogfen sydd yn cael ei chyflwyno i gyfarfod cabinet Cyngor Dinas Caerdydd yr wythnos nesaf. Mae’r ddogfen yn ymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Mae’n gwrthod y cynnig gwan i barhau i ehangu Ysgol Gymraeg Pwll Coch dros dro i brynu amser i’r Cyngor ddod o hyd i ateb parhaol i ymateb i’r cynydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y Brifddinas.
Yn lle adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown maent yn bwriadu ehangu Pwll Coch yn barhaol i dair ffrwd ym mhob blwyddyn. Nid oes son ynddo am adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown er fod arian wedi ei glustnodi gan y Llywodraeth ar gyfer hyn fel rhan o gynllun ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif.’
Cyfarfu nifer fawr o rieni, staff a llywodraethwyr Pwll Coch i drafod eu gwrthwynebiad i’r ddogfen a’i hoblygiadau ar gyfer yr ysgol. Roedd pawb yn mynegi eu siom fod y Cyngor yn mynd yn mynd yn ôl ar eu gair. Mae teimladau cryf ymysg y rhieni na ddylid ehangu’r ysgol i dair ffrwd i ddarparu ar gyfer dalgylch eang. Maent yn teimlo bod hyn yn mynd yn groes i bolisi’r Cyngor o ddarparu addysg lleol i blant lleol.
Mae Sali Collins yn ychwanegu:
Ar yr un pryd cynhaliwyd cyfarfod brys yn nhafarn y Cornwall yn Grangetown lle roedd Plaid Cymru a RhaG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) yn dod â’r gymuned ynghyd i alw am ysgol Gymraeg yn yr ardal. Roedd nifer fawr o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg o’r ardal yno i drafod y sefyllfa. Roedd teimladau cryf yn erbyn y penderfyniad a chefnogaeth mawr ar gyfer trefnu rali ym mis Medi pan fydd y Cyngor yn cyfarfod i drafod hyn ym mhellach. Roedd pawb yn cytuno y dylai’r ymgyrch ymuno holl gymunedau Cymraeg a di-Gymraeg Caerdydd i frwydro yn erbyn y cynnig.
Oeddech chi yn y cyfarfod? Beth yw eich barn? Mae Pobl Caerdydd isio clywed gennych!
http://www.change.org/petitions/councillor-julia-magill-build-the-promised-welsh-medium-primary-school-in-grangetown?utm_campaign=new_signature&utm_medium=email&utm_source=signature_receipt#share