Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi bod yn trafod ysgolion Cymraeg y ddinas. Dyma ddadansoddiad Michael Jones, Cydlynydd RhAG yn y De-Ddwyrain, ac esboniad o’r hanes sydd wedi arwain at rhai o’r datblygiadau diweddar.
Fel Swyddog Ysgolion Cyngor Caerdydd bu Chris Jones yn gyfrifol am agor chwech Ysgol Gynradd Gymraeg rhwng 2005 a 2009 sef Glan Morfa (2005), Penygroes, Nant Caerau a Phenypil (2007) a Glan Ceubal (2009) a’r chweched, Tanyreos, sydd nawr yn rhan o Ysgol Treganna ond ar wahân rhwng 2007-2014.
Mae 4 o’r 6 erbyn hyn yn orlawn ac eisiau’u helaethu ond mae Penygroes a Glan Ceubal o hyd yn tyfu.
Chris Jones oedd hefyd yn gyfrifol am greu’r cynllun i agor ysgol ar gyfer Trelluest trwy ei chael ar restr Caerdydd Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain i’w hagor ar safle anhysbys yn 2015 fel ysgol 1 ffrwd i dyfu yn 2.
Yn 2012 wedi newid yn y blaid rheoli roedd ymgais i newid yr ysgol arfaethedig o’r Gymraeg i’r Saesneg, cynnig a wrthodwyd gan y Gweinidog dros y Gymraeg, Carwyn Jones.
Wedi brwydro hir rhwng RhAG a TAG (grŵp o rieni lleol) ar un ochr a grŵp ar y Cyngor ar y llall, fe gynigodd y Cyngor chwe safle posibl ar gyfer yr ysgol Gymraeg newydd a hefyd safleoedd ar gyfer yr ysgol Saesneg .
Fe welwyd bod safle ar dir yn ymyl Ysbyty’r Hamadryad, Butetown yr un mwyaf derbyniol ar gyfer yr Ysgol Gymraeg a safle gynt yn Ysgol Tanyreos ar dir Ysgol Parc Ninian yn addas ar gyfer estyniad i Ysgol Saesneg Parc Ninian.
Gyda grŵp arall o gynghorwyr bellach wrth y llyw, yn arbennig y Cynghorydd Sarah Merry, mae’r cynllun i agor yr ysgol newydd yn 2017 wedi’i fabwysiadu gan y Cabinet ond bydd plant yn cael mynediad i ddosbarth dros dro yn yr hen Ysgol Tanyreos Fedi 2016.
Dyma agor Ysgol gynradd Gymraeg rhif 17 yn ein prifddinas.
Ar ben hyn mae mynediad Ysgol Glan Ceubal i dyfu o 28 i 30 a bydd dosbarth meithrin ar safle’r Ysgol.
Gwell byth mae Ysgol Glan Morfa sydd wedi methu derbyn pob cais am le ers 4 blynedd i symud yn 2017 i adeilad newydd sbon ar safle’r Maltings yn Sblot i dderbyn 2 ffrwd yn lle’r un presennol.
Felly mae’r Cyngor wedi cyflawni ei addewid yn ei Gynllun Strategol Addysg Gymraeg 2014-17 i ychwanegu 107 lle at y nifer oedd ar gael yn 2014.
Bydd angen 150 ychwanegol erbyn 2020 ac mae gobaith y bydd y Cyngor yn addo hyn.
sylw ar yr adroddiad yma