Mae Gary Slaymaker yn dewis y bum ffilm orau iddo weld dros y 12 mis diwethaf – yn ogystal â’r un wnaeth ei siomi fwyaf.
D’yw hi heb fod yn u o’r blynyddoedd gorau yn y sinema eleni. Os edrychwch chi ar y rhestr o’r bum ffilm nath wneud y fwya o arian yn 2013, dim ond un o rheini odd ddim yn sequel – Man of Steel. Ac i fod yn gwbwl onest, r’odd hyd yn oed honna yn ail-drefniant o gyfres, neu franchise, odd wedi bodoli ers blynyddoedd.
Ar ddechrau’r flwyddyn fe gewn ni’r ffilmiau nodedig fydd yn cystadlu am yr Oscars,a hyd yn oed fynna, r’odd na rheswm i deimlo siom. R’odd Lincoln yn hir-wyntog, ac yn hunan bwysig, a Flight yn gymharol dawel a di-fflach, ag eithrio’r ddamwain awyren hanner ffordd drwy’r stori. Ond oleia o’dd y perfformiadau gan Daniel Day-Lewis a Denzel Washington yn haeddu canmoliaeth.
Fe ddiflanodd yr haf mewn pwff o ffilmiau digon cyffredin. R’odd Pacific Rim yn siom anferth, a Fast and Furious 6 ddim hanner cystal â’r bennod flaenorol. A’r lleia weda’i am The Wolverine, y gorau.
Ond os o chi’n fodlon chwilio, r’odd na sawl perlen ymlith y sbwriel eleni eto. Felly, dyma’n newis personol i o’r bum ffilm orau i fi weld yn 2013.
Dechreua’i gyda’r dewis mwya dadleuol, efallai – The Lone Ranger. Hon yw’r ffilm gynta i fi weld o’dd wedi cael ei rhagfarnu’n llym cyn iddi hyd yn oed gyrraedd sinemau; ond mor belled ag o ni yn y cwestiwn, r’odd hon yn ticio bob blwch ar gyfer blockbuster hafaidd. Odd hi’n fawr, odd hi’n ddwl, yn llawn antur a chyffro; yn berchen ar haenen drwchus o hiwmor, ac yn cynnwys y deg muned ola mwya difyr wy ‘di câl y pleser o wylio mewn sinema ers blynyddoedd. Yr eiliad nês i glywed nodau cynta’r William Tell Overture yn neidio o’r sgrîn, nath y blew mân godi ar gefen yn ngwddg i, a bant a’r cart odd hi wedyn. Se gweddill y ffilm wedi bod yn ddiflas, bydde fe’n anoddach cyfiawnhau safle hon, ond pan i chi’n cyfuno Johnny Depp, cowbois, a “Hi-ho silver, away” – wel diawl, odd hi’n anodd peido mwynhau.
Rhif pedwar yw’r ffilm, Stoker. Hon odd ffilm gynta iaith Saesneg y cyfarwyddwr o Dde Korea, Park Chan-wook (yr athrylith odd yn gyfrifol am y fersiwn wreiddiol o Oldboy). Yn fras, r’odd hi’n deyrnged i ffilmiau Alfred Hitchcock, gyda’r stori’n benthyg themau a syniadau o un o weithoedd cynnar Hitch, Shadow of a Doubt.
Ond r’odd Stoker gymaint fwy na theyrnged i Hitch, gan bod hi hefyd yn sefyll ar ei thraed ei hunan fel ffilm gyflawn, craff, a gafaelgar. Wy erioed wedi bod yn ffan mawr o Nicole Kidman, ond r’odd ei phersonoliaeth oeraidd yn gweitho’n berffaith fan hyn.
Llai o art house a mwy o artwork odd Stoker, gyda bob golygfa wedi ei lunio’n fanwl. R’odd hi’n diferu o steil, ac yn berchen ar ddigon o sylwedd i ddala sylw’r gwyliwr o’r dechrau tan y diwedd.
Beth bynnag yw’ch barn chi o Quentin Tarantino a’i ffilmiau, mae e’n anodd gwadu bod y boi yn galler dal y sylw. Dros y blynyddoedd wy ‘di syrthio i fewn ac allan o gariad ‘da Pulp Fiction, a’r tro cynta i fi wylio Inglourious Basterds, o ni’n meddwl bod hi’n ofnadwy. Bellach, wy’n hapus i wylio hi, bron yn wythnosol.
Ac wrth ystyried bod Tarantino wedi bod yn gwneud defnydd o draciau sain spaghetti westerns ers rhai blynyddoedd bellach, r’odd hi ond yn fater o amser cyn bod QT yn troi ei law at y ffilm gowboi. Felly yn drydedd ar fy rhestr, ma Django Unchained.
Heb os, hon yw’n hoff ffilm i gan Tarantino, hyd yn hyn. Gwaedlyd, dros ben llestri, ac yn hynod o cŵl heb hyd yn oed drio. R’odd perfformiadau Di Caprio a Samuel L Jackson gyda’r gorau wy ‘di gweld eleni, ac am ffilm o’dd yn agos i dair awr o hyd, o ni ddim ishe iddi orffen.
A fel arfer, fe ddewisodd Quentin gerddoriaeth rhyfeddol ar gyfer y trac sain, a troi ffilm odd yn ddigon trawiadol yn barod mewn i rhywbeth arbennig iawn. Yn frâs: Djiawl djoies Django.
Er bo fi’n ddilynwr brŵd o nifer wahanol gamp, wy erioed wedi bod yn ffan o rasio Formiwla 1. I weud y gwir, yr unig ffordd alle chi gâl fi i eistedd lawr a gwylio râs fel hyn bydde i rhoi speed bumps ar y trac, a hanner dwsin o loris Mansel Davies – wedyn ffindech chi mâs pwy mor dda ma’r bois ma am yrru.
Ond er gwaetha’r agwedd ‘ma, allen i ddim help ond mwynhau’r ffilm sydd yn yr ail safle – Rush. Ma’r cyfarwyddwr, Ron Howard, wedi dangos ei allu i greu stori dda am chwaraeon o’r blaen gyda Cinderella Man, ond odd Rush yn rhywbeth arbennig iawn.
R’odd y golygfeydd rasio’n ddigon trydanol a chyffrous i ddechre, ond asgwrn cefn y stori odd y berthynas a’r gystadleuaeth rhwng James Hunt a Nikki Lauda – dau ddyn odd yr un mor dalentog a styfnig a’i gilydd, ond odd yn berchen ar gymeriadau dra wahanol.
Unwaith eto, r’odd y perfformiadau canolig yn cynnal popeth, ond heb ddawn Howard i adrodd stori, a creu golygfeydd gwych, bydde hon wedi bod yn ffilm ddigon cyffredin. Ond r’odd hi’n bendant yn un o’r ffilmie chwaraeon orau i fi weld ers blynyddoedd, ac yn deyrnged gwych i ddewrder a natur unigryw Lauda a Hunt.
Reit, un ffilm fach ar ôl, a hon odd yr un nath hwthu’n sanne i bant eleni. Nid yn unig ffilm y flwyddyn, ond alle hon ennill ei lle ar rhestr y ffilmiau gorau o’r 20 mlynedd ddiwetha – Gravity.
Stori syml, yn y bôn, ond r’odd y tyndra odd yn rhedeg drwy’r hanes bron yn ormod ar adegau. Dau berfformiad syfrdanol gan Sandra Bullock a George Clooney, ac wrth ystyried bod pob golygfa yn y pictiwr yn cynnwys elfen gryf o effeithiau gweledol anghygoel, d’odd hwnna ddim hyd yn oed yn eich taro chi wrth wylio hon. Y stori a’r cymeriadau odd yn cario popeth.
Ac er bo fi ddim yn meddwl rhyw lawer o 3D fel ffurf o wylio ffilm, hon yw’r unig bictiwr wy ‘di gweld sydd hyd yn oed well os welwch chi hi gyda pâr o sbectol tywyll ar eich wep. Yn syml iawn, gath sinema ei greu ar gyfer ffilm fel Gravity, ac am hynny o beth, wy’n ddiolchgar iawn.
Wel, na’r gorau wedi neud, ond er mwyn gorffen ar nodyn o gwyno, man a man i fi enwi’r ffilm o’dd yn haeddu’i lle fel twrci y flwyddyn.
R’odd na ddigon o ddewis eleni – r’odd Saving Mr. Banks yn esiampl o siniciaeth corfforaethol llwyr gan Disney, a Movie 43 yn un cachfa o wynebau enwog yn taflu ei gyrfaoedd lawr y tŷ bach. D’odd bach iawn o werth ynglyn a Anchorman 2, ac Only God Forgives yn un o’r pethe mwya pretentious a di-nôd i fi weld mewn sinema ers hydoedd, er gwaetha’r lefelau rhyfeddol o drais.
Ond dim ond un ffilm wylltiodd fi’n fwy nag unrhyw beth eleni – A Good Day to Die Hard.
Nawr, o ystyried mae’r Die Hard gwreiddiol yw’r action film orau erioed, yn fy nhŷb i, mae e’n dor-calonus i feddwl bod y gyfres wedi cyraedd iselfannau cynddrwg a nath hon.
Pe bai hi heb fod yn un o’r ffilmie Die Hard, bydde hi wedi bod yn ddigon derbyniol; ond ma na linach, a hanes, a phresenoldeb yn perthyn i’r teitl yma. R’odd gweld Bruce Willis yn gwneud jobyn mor half arsed o gerdded yn ddi-enaid drwy hon yn ddigon i wneud i’n ngwaed i ferwi. Hon odd y gyfres nath neud e’n seren, a rhoi miliynau yn ei gyfri banc… a fel hyn ma’r ff***r yn bihafio, nawr? Yn amlwg, d’yw’r boi’n becso dim am y cymeriad, na’r gyfres.
Y tristwch yw bod na Die Hard arall ar y ffordd, ond welith Bruce ddim ceinog o’n arian i bellach. “Yippe-kye-ay” a twll ei dîn e.
O ie – Nadolig Llawen pawb!
Slay x
sylw ar yr adroddiad yma