Pwy sy’n cofio’r siart pH yn eich gwersi Gwyddoniaeth? Asid â pH 0 – 6, alcali â pH 8 – 14, a pH 7 yn niwtral? A oeddech chi’n ymwybodol bod gan ein cyrff yr un egwyddor?
Gweithreda’r corff yn well â pH niwtral ac alcali. Mae gormodedd o asid yn y corff yn atynnu alergeddau, problemau gyda’r coluddyn (colon) a system dreulio, salwch cronig a straen yn feddyliol a chorfforol. Felly ceisiwch fwyta llai o fwydydd asidig hynny yw bwydydd wedi’u prosesu, cynnyrch bwyd anifail, siwgr a choffi (gan gofio’r gymhareb 70:30 o’r blog cyntaf).
Ychwanegwch fwydydd alcali i’ch bwydlen er mwyn maethu’ch celloedd asidig. Bwytwch fwydydd amrwd, gwyrdd, llysiau, lemwn a smwddis er mwyn cryfhau’ch system imiwn, gwella’ch hwyliau, cynyddu’ch egni a thywynnu’ch croen. Bwyd iach, celloedd iach.
Bob bore dwi’n dechrau fy niwrnod â diod wyrdd yn orlawn o fitaminau, chlorophyll ac ocsigen. Beth am wneud yr un peth? Ar yr olwg gyntaf, edrycha’n afiach! Dyma oedd fy marn i cyn yfed fy niod gyntaf. Ar ôl dipyn, rydych chi’n cyfarwyddo – gaddo!
Dyma fy nghynhwysion i (1 diod) :
2 darn o seleri (lleihau pwysau gwaed)
1 afal (cefnogi’r system imiwn)
1 moron (tywynnu’r croen)
½ ciwcymbr (hydradu’r corff)
Darn 1 modfedd o sinsir (lleddfu poenau yn y cyhyrau)
Llond llaw o kale neu sbigoglys (cryfhau’r esgyrn)
(Ychwanegwch ddarn o binafal am flas melys i gefnogi’r system dreulio.)
Defnyddiwch juicer i gymysgu’ch diod wyrdd. Os oes gennych chi blender fel Nutri Bullet (sy’n wahanol i’r juicer), lleihewch y cynhwysion ac ychwanegwch ddŵr yn ôl yr angen er mwyn cael cymysgedd llyfn. Rhowch y cynhwysion drwy’r juicer/blender ac yfwch!
sylw ar yr adroddiad yma