Mae Lydia Hitchings wrth ei bodd o fod wedi cael ei dewis i garfan dan 21 Cymru ar gyfer y twrnamaint pencampwriaeth ieuenctid Ewrop fydd yn cael ei ei gynnal yng Nghaerdydd fis nesaf.
Mae gan Lydia sy’n gyn aelod o ysgol gynradd Petersen Super Ely bum cap dros ei gwlad eisioes ac mae’n chwarae yn safle saethwr i glwb CTK Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’n astudio Celf ym Mhrifysgol Caerfaddon ar ôl gwneud cwrs sylfaenol celf yn Academi Celfyddydau Caerdydd.
Roedd Lydia’n aelod o garfan Cymru dan 17 yn ystod twrnamaint Pêl Rwyd Ewrop 2014 a charfan dan 21 Cymru yn ystod twrnamaint Pêl Rwyd Ewrop 2015.
Teithiodd i Dde Afffrica ar daith Pêl Rwyd Cymru i’r wlad am 3 gêm prawf.
Ond nawr mi fydd hi’n chwarae o flaen ei theulu a’i ffrindiau yn y twrnamaint pwysig yn y Brifddinas lle fydd goreuon y byd pêl rwyd yn serenni.
Meddai Lydia: “Dwi mor falch fy mod i wedi cael fy newis i’r garfen o bymtheg. Mae’r wythnosau nesaf yn allweddol i’n paratoadau ar gyfer y twrnamaint, a gobeithio caf gyfle i gynrychioli fy ngwlad unwaith eto.
“Mae’r sesiynau hyfforddi yn mynd dda hyd yn hyn. Rydym wedi datblygu i fod yn dîm agos iawn, ac felly mae’r awyrgylch yn ystod yr hyfforddiant yn bositif.
“Dwi’n hapus ofnadwy fod y twrnamaint arbennig yma’n dod i fy ninas. Gobeithiaf bydd hi o fantais i’r tîm ac i mi yn bersonol am ein bod ni’n chwarae o flaen cefnogwyr cartref, ac rydym yn gyfarwydd â’r cwrt a’n hamgylchedd.
“Dwi’n edrych ymlaen at groesawu’r timoedd i gyd i fy ardd gefn!”
Dim llawer o amser felly i fwynhau ei amryw ddiddordebau sef canu, yoga a paentio morluniau i ymlacio. Gobeithio fydd hi’n gwneud tipyn o sblash yn y gystadleuaeth!
[…] “Dwi mor falch fy mod i wedi cael fy newis i’r garfen o bymtheg. Mae’r wythnosau nesaf yn allweddol i’n paratoadau ar gyfer y twrnamaint, a gobeithio caf gyfle i gynrychioli fy ngwlad unwaith eto,” meddai. Darllennwch mwy am Lydia yma. […]