Portread o un o grefftwyr Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru gan Gwenda Richards
“Os i chi’n dwli ar eich job, sdim rhaid i chi weithio byth eto!” Dyna yw farn Geraint Parfitt am ei waith fel clocsiwr yn Amgueddfa Sain Ffagan.
Mae e’n grefftwr prin – mond pedwar arall sy’n cerfio clocs ym Mhrydain ac ma fe’n dwli ar glocs siwt gwmaint “Sai’n gwisgo dim byd arall am y’nhrad,” meddai’r gwr o Dreherbert.
O’r tu allan mae’r gweithdy sinc brown yn edrych yn blaen iawn. Symudwyd yr adeilad o Solfach yn Sir Benfro pan naeth y clocsiwr oedd pia’r gweithdy farw. Ond wrth gamu mewn i weld Geraint wrth ei waith, roedd y lle dan ei sang o glocsiau o bob lliw ag offer rhyfedd di- ri, gan gynnwys tri cyllell go arbennig- y gyllell fawr, y gyllell llwnci a’r gyllell gwartrwch.
Dechreuodd Geriant weithio fel gofalwr ym 1991 ond o fewn chwe mis roedd yn dechrau cerfio darnau o bren – llwyau serch ag ati. “ Ro’n i ishe bod yn grefftwr yn yr amgueddfa a sonies i am hyn wrth un o’r crefftwyr, John Hughes. Wedodd e wrthai os ffinde’n i rwbeth anghyffredin i wneud yna fe fyddai siawns go dda da fi ,” meddai Geraint. Fe gafodd wersi cerfio gan gyn glocsiwr, Hywel Davies a mae e wedi bod yn gwneud y sgidiau pren byth oddi ar hynny.
Fydd Geraint yn mofyn y pren ei hun o Goed Cymru. Sycamorwydden yw’r pren ac mae’n dechrau cerfio’n syth wedi i’r coed gwympo. “Y joc yw fe fethais i arholiad gwaith coed yr yr ysgol, ond ma’r pren ma yn feddal ac yn hyfryd i weithio,” meddai.
Mae’r lledr hefyd yn cael ei dorri, ei liwio a’i winio gan Geraint. Sylwais i ar y nifer o barau amryliw o glocs ar y llawr ger y drws a gofyn pwy oedd pia nhw. “ Sdim un o rheina yn mynd i ddawnswyr clocs, “ mynte Geraint. “Wi’n neud un par nawr i rywun sy’n byw yn Azerbaijan. Ma nhw’n mynd i bedwar ban byd”. Mae’r clocs yn cymryd rhwng pum a deng awr i’w gwneud ac yn costio tua £80 y par- ond mae traed pob cwsmer yn cael ei fesur er mwyn i’r clocs ffitio’n berffaith. “Pan ma nhw’n mynd mas o ma ma pawb yn gweud pa mor gyffyrddus i nhw- ma nhw’n ffab!”
Mae Geraint nawr yn hyfforddu eraill ac yn dehongli’r grefft i ymwelwyr. “Yn yr haf wi’n siarad ac esbonio wrth bawb sy’n pasio heibio, ond yn y gaeaf gyda llai o ymwelwyr, wi’n dala lan a’r holl waith.”
Yn ei amser sbar mae’r tad i bedwar yn ysgrifennu llyfr am ei waith o dan y teitl. “From log to clog”. Mae’n edrych ymlaen yn fawr at yr holl ddatblygiadau fydd yn digwydd yn yr Amgueddfa dros y bum mlynedd nesaf. “Fydd na atyniadau newydd yn denu mwy o ymwelwyr- a byddai’n gwerthu mwy o glocs!” meddai Geraint gan chwerthin.
sylw ar yr adroddiad yma