Gwenda Richards, Is-Olygydd Pobl Caerdydd.Wedi fy magu yn y Barri a nawr yn byw ym Mhenarth ond wedi gweithio fel newyddiadurwraig erioed yng Nhaerdydd, gyda’r Western Mail, HTV a’r BBC.
Yn ddigon hen i gofio stafelloedd newyddion yn llawn mwg ac arogl inc a golygu ffilm 16mm. A chlybie nos fel y Casablanca a Papa Gios! Dwi’n dwli ar gadgets a thechnoleg felly ma newyddiadura digidol yn siwtio fi i’r dim! Wi’n edrych mlaen i’r tymor peldroed gan bo fi’n berchen ar docyn tymor i weld yr Adar Gleision yn yr Uwchgynghrair.