Archfarchnadoedd rhad yn codi pryder

15 Ionawr 2015

Gan Huw Onllwyn

Sainsbury’s yw’r siop lle rwy’n arfer mynd i brynu fy mwyd (heblaw, wrth gwrs, am fy siop fferm lleol organig free-range eco-gyfeillgar).

‘Rwy’n mynd i’r un wrth ochr yr A470, ger Pontypridd. Siop newydd, glan, gyda staff cyfeillgar, oll yn siarad efo acen hyfryd y cymoedd.

Mae’n debyg, fodd bynnag, fy mod yn berson ffôl iawn yn siopa yn Sainsbury’s.

Lidl ac Aldi yw’r llefydd i fynd. Bargenion! Ansawdd gwych! Dim nonsens!

Roeddwn yn meddwl am hyn tra’n ymweld a Sainsbury’s ar ddydd Llun. Wrth gyflwyno’r wobr a gefais, diolch i fy ngharden Nectar (‘£12 off when you spend over £60’) a meddwl am sut a phryd i wario fy £40 o dalebau Pizza Express (y cefais wrth newid fy mhwyntiau Nectar amdanynt), gofynnais i fy hunan ‘Faint o ffŵl ydwyf i? Beth pe taswn wedi mynd i Lidl? Oni fyddai fy nhroli yn llawn o ddanteithion hyfryd, a fy waled dal yn llawn o arian?’

Wrth i mi lenwi’r S-Type yn garej Sainsbury’s (mae’r petrol ar gael yno bron am ddim, ar hyn o bryd, gyda llaw) penderfynais i wneud darn o ymchwil.

Penderfynais fynd i Lidl!

Cydiais yn fy i-Phone ac agor ‘Maps’. Wrth deipio ‘Lidl’ yn y blwch chwilio, teimlais fod pennod newydd yn hanes fy mywyd ar fin cychwyn. Roeddwn yn hollol sicr mai dyma fel yr oedd Nelson Mandela yn teimlo wrth adael ei gell yn Robben Island, gan gerdded tuag at ei fywyd disglair, rhydd a newydd.

Caerffili! Wrth gwrs! Roedd ‘na Lidl yn Caerffili!

Edrychais ar y map eto, rhag ofn fod ‘na Lidl wedi ei guddio rhywle yn Radur ond, na, yng Nghaerffili oedd y Lidl agosaf.

Taniais beiriant fy nghar, gan anelu’r bwystfil gwyrdd tuag at Nantgarw. ‘I’r chwith, gyfaill!’, dywedais wrthyf fy hun, ‘I gyfeiriad Caerffili! Bydd ddewr!’

O fewn 10 munud roeddwn wedi parcio rhwng hen Vauxhall Vectra a Morris Ital yng nghornel maes parcio Lidl. Dilynais menyw go nobl i fewn i’r siop. Yn fy llaw, fy receipt o Sainsbury’s. Y nod – i gymharu prisiau.

A dyma a ddarganfuais:

a) Gan fy mod wedi siopa’n lled ofalus yn Sainsbury’s (y Basics Range ayb), prin oedd unrhyw dystiolaeth fod prisiau Lidl llawer yn is. Roedd ambell i fargen, mae’n wir (megis grawnwin tua hanner pris Sainsbury’s). Roedd y rhan fwyaf o bethau unai ychydig o geiniogau’n rhatach yn Lidl, neu ychydig o geiniogau’n rhatach yn Sainsbury’s. Roedd darn o gig eidion dwywaith yn ddrutach yn Lidl nac yn Sainsbury’s (£5 yn fwy). A nid yw Lidl, wrth gwrs, yn cynnig unrhyw fath o gerdyn teyrngarwch (wele fy nisgownt o £12, a fy £40 ar gyfer Pizza Express, uchod).

b) Roedd ambell i eitem ecsotig (megis grawnffrwyth pinc, sinsir ffres, siwgr muscovado, hadau sesame a blawd Spelt) ddim ar gael yn Lidl.

c) Roedd canol y siop yn llawn eitemau megis offer weldio, cordless torches ac electric juicers. Y rhan fwyaf i weld yn rhy rhad, heb llawer o obaith o gynnig bywyd o wasanaeth.

Beth yn y byd sy’n mynd ymlaen, felly? Wel, dyma fy marn am Lidl:

Yn gyntaf nid yw, yn fy mhrofiad cyfyng (nad wyf am ei ailadrodd) ar blaned arall o ran prisiau. Mae modd siopa yn Sainsbury’s am bris tebyg (wrth ganolbwyntio ar y Basics range). Mae modd, wrth gwrs, gwario mwy yn Sainsbury’s (wrth ganolbwyntio ar y Taste the Difference range). A pheth braf yw cael y dewis.

Yn ail, cyfyng yw’r dewis yn Lidl. Peth weddol fach yw’r adran llysiau a phob adran arall. Amhosib, er enghraifft, fyddai dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ‘Pot-roasted Pheasant with Port and Chestnuts’ (Delia Online:  Esgus o siop, ydyw, felly.

Ond, yn wir, man bethau yw’r uchod.

Dyma fy ngwir bryderon am siop Lidl:

1) Mae’n ein harwain i osod ein ffocws yn ormodol ar bris bwyd, gyda’r nod o dalu cyn lleied a phosib am y cynnyrch. A sut mae cadw prisiau bwyd mor isel a phosib? A yw hyn yn arwain at dalu cyn lleied a phosib i’r ffarmwr, gweithwyr y ffatri fwyd ac, wrth gwrs, staff Lidl? Heb sôn am ddod o hyd i’r cynhwysion mwyaf rhad.

2) Mae’n dwyn ein sylw, felly, oddi ar chwilio am y bwydydd gorau sydd ar gael. Yn hytrach na chwilio am yr afalau Prydeinig gorau (a mynnu bod ein siopau’n eu cynnig i ni), mae ffocws y siopwr yn mynd ar dalu cyn lleied a phosib er mwyn dod a’r afalau (o ble?) adref. A wedyn brolio am hynny i’w deulu a’i ffrindiau. (A fyddent yn brolio cyn lleied a wariwyd ganddynt ar anrhegion Nadolig i’w plant?)

3) Ers y chwedegau, rydym wedi elwa wrth weld ein siopau mawr yn cynnig mwy a mwy o nwyddau i ni, o bedwar ban y byd. Er enghraifft, dim ond mis yn ôl prynais fy mhecyn cyntaf o Ras El Hanout. Fodd bynnag, wrth siopa yn Lidl, gyda’i ddewis cyfyng o gynnyrch, mae’r cwsmer yn lleihau gallu Sainsbury’s i wneud yr elw sy’n ei alluogi i ddod ag amrywiaeth da o fwyd i ni. Rydym yn gwthio ein byd gastronomig yn ôl ir chwedegau tywyll.

4) Mae’n cadarnhau’r farn amdanom fel gwlad sy’n poeni dim am fwyd (mewn pôl piniwn diweddar, dywedodd 60% o bobl Cymru eu bod yn ystyried bwyd fel dim byd mwy na rhywbeth sy’n rhoi’r egni iddynt fyw). Cymharwch, da chi, gynigion cyfyng Lidl o ran llysiau efo marchnadoedd pentrefi Ffrainc. ‘Rydym yn wlad sy’n llawn bobl nad sy’n bwyta wystrys, cregyn gleision, madarch, pwdin du, cocos, bara lawr, pysgod, bwyd sbeislyd, caws glas, iau, calonnau wyn – a rhestr diddiwedd o fwydydd blasus a diddorol. Fe glywais gan y cigydd (o’r Almaen) ym marchnad Dinbych-y-Pysgod am ei rwystredigaeth wrth weld rhieni yn dod a’u plant i’w stondin i brynu lamb chops a bacwn, tra’n dweud wrth eu plant mor ‘disgusting’ ei olwg yw gymaint o’r cigoedd eraill (yr iau, y galon, yr oxtail ayb). Pa obaith, gofynnodd, sydd i’r plant hynny i dyfu’n oedolion sy’n mynd i fwynhau’r ystod eang iawn o fwydydd sydd ar gael i ni?

5) Mae’n ei wneud yn anoddach i’r cwsmer i fod yn sicr fod y cynnyrch yn dod gan gynhyrchwyr sy’n trin yr amgylchedd, anifeiliaid a gweithwyr mewn modd ethical. Pwy sydd tu cefn i Tiddle Beans? Mae cwmnïau enwog (megis Heinz) yn gorfod gweithio’n galed i gadw eu henwau da. Pe byddai llygod wedi marw, gwallt cath a hen esgid yn cael eu darganfod mewn tin o Tiddle Beans fe fyddai modd i Lidl droi at gwmni Widdle Beans, neu fe fyddai’n ddigon hawdd i Tiddle Beans newid eu henw i Piddle Beans.

6) Onid yw Lidl yn mynd a ni ar ‘a dive to the bottom’? Os daw diwedd ar yr amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael i ni, wrth i’r archfarchnadoedd traddodiadol ddod o dan mwy a mwy o bwysau, ni fydd gennym neb i’w feio heblaw ni ein hunain a’n hawydd i dalu cyn lleied a phosib am ein bwyd.

7) Efallai fod troi at Lidl yn symptom arall o awydd pobl i rebelio, ac i wrthod y systemau sydd wedi ein gwasanaethu am oes (megis gwleidyddion, cwmnïau mawrion ayb), gan ddilyn arweinyddiaeth unigolion di-glem megis Russell Brand (‘Don’t vote! I haven’t got the answers, I’m only a comedian…). Mae’n cynnig ffordd arall i bobl feddwl eu bod yn ‘ymladd yn erbyn y system’. Yeah…right.

Bydd rhai yn dadlau fod y cyfnod o doriadau ers 2008 wedi gorfodi pobl i droi at Lidl, ond y gwir amdani yw fod gan y bobl hynny flaenoriaethau eraill (megis fags, ‘phones, Burberry jacket, 40 inch flat screen TV…) tra fod bwyd, a choginio bwyd, yn flaenoriaeth isel (stick that frozen pizza in the microwave, love. Tell you what, stick two in, they were only a quid each…)

Ond dyna’r cyfan am y tro.

Mae angen i mi fynd i stwffio fy ffesant…

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon